English icon English

Dr Frank Atherton yn cadarnhau saith o farwolaethau pellach yn gysylltiedig â COVID-19 yng Nghymru

Dr Frank Atherton confirms a further seven COVID-19 related deaths in Wales

Dywedodd y Prif Swyddog Meddygol ar gyfer Cymru, Dr Frank Atherton:

“Gyda thristwch mawr, gallaf gadarnhau saith o farwolaethau pellach ymhlith cleifion yng Nghymru a brofodd yn bositif ar gyfer Coronafeirws (COVID-19).

“Mae hyn yn mynd â nifer y marwolaethau yng Nghymru i 12.  

“Mae fy meddyliau gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau ac rwy'n gofyn am i'w preifatrwydd gael ei barchu ar yr amser trist iawn yma." 

Roedd pump o'r marwolaethau yn Ysbyty Brenhinol Gwent, un yn Nevill Hall ac un yn Ysbyty'r Tywysog Siarl. Roedd pob un yn y categori risg uchel, naill ai dros 70 neu gyda chyflyrau iechyd sylfaenol. Nid oes rhagor o fanylion ar gael ar hyn o bryd.

 

 

Nodiadau i olygyddion

O ddydd Llun 23 Mawrth ymlaen, fydd marwolaethau cysylltiedig â COVID-19 yng Nghymru yn cael ei chyhoeddi fel rhan o ddiweddariad dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn www.phw.nhs.wales