English icon English

Pwerau newydd i rym yng Nghymru i orfodi cadw pellter cymdeithasol ar gyfer y coronafeirws yng Nghymru

New powers to enforce Coronavirus social distancing come into force in Wales

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cadarnhau bod pwerau newydd i helpu i leihau lledaeniad y coronafeirws, diogelu'r GIG ac achub bywydau wedi dod i rym.

Mae'r Prif Weinidog wedi gwneud rheoliadau newydd ym maes iechyd y cyhoedd yn rhan o’r gyfraith i gryfhau pwerau gorfodi'r heddlu yng Nghymru.

Dim ond at y dibenion cyfyngedig iawn canlynol y caniateir i unigolion adael eu cartref:

  • Siopa am nwydau angenrheidiol a chyflenwadau sylfaenol, a hynny mor anaml â phosibl;
  • Un ffurf o ymarfer bob dydd - er enghraifft, rhedeg, cerdded neu feicio - ar ei ben ei hun neu gydag aelodau o'u haelwyd;
  • Unrhyw angen meddygol, i ddarparu gofal neu i helpu person sy'n agored i niwed;
  • Teithio i'r gwaith ac oddi yno, ond dim ond pan nad yw’n rhesymol ymarferol iddynt weithio gartref.

Dylai pobl aros o leiaf 2m oddi wrth ei gilydd bob amser.

Hefyd, ni chaniateir cymryd rhan mewn cynulliadau o fwy na dau o bobl mewn mannau cyhoeddus ac eithrio mewn amgylchiadau prin iawn, er enghraifft, at ddibenion gwaith hanfodol. Bydd gan yr heddlu bwerau i orfodi hyn.

Os na fydd pobl yn cydymffurfio â'r cyfreithiau newydd hyn:

  • Gellir eu cyfarwyddo i ddychwelyd adref neu eu symud o le y maent a'u dychwelyd adref
  • Efallai y bydd yn rhaid iddynt dalu hysbysiad cosb benodedig o £30. Os na chaiff hwn ei dalu o fewn 14 diwrnod, bydd yn dyblu i £60, ac os cânt ail hysbysiad neu rybudd dilynol, bydd y tâl yn £120

Gallai unigolion nad ydynt yn talu hysbysiad cosb benodedig o dan y rheoliadau orfod mynd i’r llys, gydag ynadon yn gallu gorfodi dirwyon diderfyn.

Os bydd unigolyn yn parhau i wrthod cydymffurfio, bydd yn gweithredu'n anghyfreithlon, a gall yr heddlu eu harestio. Er hynny, yn y lle cyntaf bydd yr heddlu bob amser yn defnyddio eu synnwyr cyffredin a'u disgresiwn.

Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru:

"Mae'r gyfraith newydd sy'n dod i rym heddiw yn nodi'r hyn y mae angen i bobl ledled Cymru ei wneud: aros gartref i ddiogelu ein GIG ac achub bywydau.

"Hoffwn ddiolch i'n gwasanaeth iechyd gwladol, a gwasanaethau rheng flaen eraill, am y gwaith hollol anhygoel y maen nhw'n ei wneud yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Os bydd pob un ohonom yn dilyn y rheolau hyn, byddwn yn atal y feirws erchyll hwn rhag lledu, byddwn yn achub bywydau, a byddwn yn diogelu’r GIG.

"Bydd y pwerau newydd yr wyf wedi'u gwneud yn rhan o’r gyfraith yn rhoi i’r heddlu'r pwerau y mae arnynt eu hangen i ddiogelu'r cyhoedd a chadw pobl yn ddiogel."

Mae’r canllawiau llawn i’w gweld yma: https://llyw.cymru/full-guidance-staying-home-and-away-others