- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
15 Maw 2024
Mae’r opsiwn o ddefnyddio’r system newydd ‘Talu wrth fynd’ drwy dapio i mewn ac allan ar gael ar linell Glynebwy (o ddydd Llun 18 Mawrth ymlaen).
Gan ei gwneud hi’n gyflymach, haws a rhatach i deithio, gwnaeth Trafnidiaeth Cymru lansio’r cynllun peilot y mis diwethaf ar deithiau rhwng Caerdydd Canolog, Casnewydd a Phont-y-clun.
O ganlyniad i lwyddiant y cynllun peilot, rydym wedi ehangu’r cynllun i linell Glynebwy - bydd felly 11 gorsaf yn rhan ohono.
Erbyn diwedd 2024, mae TrC yn bwriadu ehangu’r cynllun i’r 95 gorsaf ar draws Metro De-ddwyrain Cymru.
Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru:
“Rydym yn parhau i wneud cynnydd gyda’n cynllun ‘Talu wrth fynd’ ac rwy’n falch ein bod wedi’i ehangu i’r llinell Glynebwy gan ychwanegu 8 gorsaf at y cynllun.
“Byddwn yn parhau i ehangu’r cynllun drwy gydol y flwyddyn, gan hwyluso’r profiad i gwsmeriaid, gwellau’u profiad o deithio a hyrwyddo’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.”