- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
14 Maw 2024
Ar ôl 12 mis llwyddiannus i wasanaeth bws trydan T1 TrawsCymru rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cyhoeddi strwythur prisiau newydd ar gyfer llwybr T1.
O ddydd Sul 31 Mawrth ymlaen, bydd prisiau teithiau un tocyn ar y T1 sy’n bellach na 3km (1.8 milltir) yn codi £0.25, i gyd-fynd â’r strwythur prisiau safonol sydd ar waith ar wasanaethau T2, T3 a T10.
Bydd y cynnydd hwn ond yn berthnasol i docynnau sy’n cael eu prynu ar y bws. Bydd cwsmeriaid yn gallu prynu’r tocynnau gwerth gorau drwy lawrlwytho ap TrawsCymu.
Bydd teithiau un tocyn i deithio 3km (1.8 milltir) neu lai sy’n cael eu prynu ar y bws yn dal yn ddim ond £1.25.
Bydd prisiau ein tocynnau drwy’r dydd, wythnosol a phedair wythnos yn aros yr un fath ac yn parhau i roi’r gwerth gorau am arian i ddefnyddwyr rheolaidd gwasanaeth T1.
Bydd pobl sy’n defnyddio gwasanaethau trên TrC o Gaerdydd i orllewin Cymru hefyd yn gallu arbed amser ac arian ar gyfer teithiau i gyfeiriad Aberystwyth drwy brynu ein tocyn cyfun trên a TrawsCymru T1.
Mae rhagor o wybodaeth am brisiau ar gael ar wefan TrawsCymru.