- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
28 Maw 2024
Antur yw hanfod penwythnos y Pasg ac mae Sir Benfro'n cynnig llawer mwy na thraethau trawiadol yn unig; gwisgwch eich esgidiau cerdded ac archwiliwch fynyddoedd godidog y Preseli!
Cerdded a Chrwydro:
Mae Preseli yn cynnig hafan i gerddwyr o bob gallu. O ymlwybro'n hamddenol gyda'r teulu i deithiau cerdded heriol, mae llwybr sy’n addas i bawb.
Lawrlwythwch ap GoJauntly a threfnu eich taith heddiw.
Mae llawer iawn o lwybrau cerdded ar gael, rydych yn siŵr o ddarganfod un sy'n addas i chi!
Dyma rai syniadau i'ch ysgogi:
- Yn llai na milltir o hyd, Foel Eryr yw'r daith gerdded fyrraf yn y Preseli. Yn sicr, dyma'r daith gerdded orau i chi os ydych chi am fwynhau golygfeydd gwych, heb orfod gweithio'n rhy galed.
- I gyrraedd pegwn Moel Drygarn, byddwch yn cerdded tua milltir a hanner (mae pawb yn hoffi hunlun ar bwynt uchaf taith gerdded!) a bydd golygfeydd bendigedig yn eich disgwyl.
Yn teimlo'n anturus ac eisiau cerdded pellter hirach? Gallwch ddal bws T5 TrawsCymru i Eglwyswrw a cherdded 4 milltir i'r pwynt uchaf.
- Moel Cwmcerwyn yw copa uchaf bryniau'r Preseli. Dyw’r daith i'r copa ddim yr hawsaf, byddwch yn dringo 300 metr mewn 2 filltir, ond mae'n werth pob cam!
P'un a ydych chi'n dechrau neu'n gorffen eich taith gerdded yn Rosebush beth am ddysgu rhywfaint am hanes yr ardal ac archwilio gweddillion Gorsaf Rosebush a gaeodd yn barhaol i deithwyr ym 1937.
Cyngor defnyddiol: Paratowch bicnic a mwynhewch seibiant yn mwynhau golygfeydd rhagorol ymysg llonyddwch y mynyddoedd.
Gadewch eich car gartref y Pasg hwn!
Ymlaciwch ar Drafnidiaeth Gyhoeddus a mwynhewch olygfeydd gwledig hardd. Ewch i'n gwefan: https://trc.cymru neu Traveline Cymru: https://www.traveline.cymru/ i drefnu eich taith.
Y Pasg hwn, mwynhewch harddwch Sir Benfro trwy archwilio Mynyddoedd y Preseli. Mae'n antur a fydd yn eich adfywio, yn eich bywiogi ac yn creu atgofion bythgofiadwy!