- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
19 Maw 2024
Mae rhai o'n mentrau rhagorol a arweinir gan y gymuned wedi cael eu cydnabod mewn seremoni Wobrwyo Rheilffyrdd Cymunedol, seremoni oedd yn cael ei chynnal am y 19eg tro yr wythnos hon.
Cynhaliwyd y digwyddiad, a drefnwyd gan y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol ac a noddwyd ar y cyd gan TrC a GWR, yn Abertawe am y tro cyntaf ac fe'i cynhaliwyd ar y cyd gan Marie Daly, ein Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant. Daeth dros 400 o bobl i'r digwyddiad, gan gynnwys uwch arweinwyr rheilffyrdd a thrafnidiaeth, swyddogion rheilffyrdd cymunedol a gwirfoddolwyr.
Roedd yn cydnabod prosiectau sy'n cefnogi amrywiaeth, hygyrchedd a chynhwysiant, teithio cynaliadwy a thwristiaeth, ymgysylltu ag ieuenctid ac ysgolion, gwella gorsafoedd a arweinir gan y gymuned, grymuso cymunedau a dylanwadu ar newidiadau cadarnhaol, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio creadigrwydd ac adrodd straeon i ysbrydoli teithiau cynaliadwy ar reilffyrdd a grymuso pobl ifanc.
Llwyddodd tri phrosiect arloesol dan arweiniad ein partneriaeth rheilffordd gymunedol gysylltiedig o bob rhan o'r rhwydwaith i gyrraedd y rhestr fer:
- Enillodd Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian y Wobr Twristiaeth a Hamdden am eu prosiect dwyieithog ‘Window Seater' / 'Sedd ger y Ffenestr', sy'n rhannu straeon sain geoleoliadau ar hyd y llwybr, gan ddweud hanesion a rhoi mewnwelediadau lleol. Mae'n cysylltu teithwyr â'r byd y tu allan i ffenestr y trên a'i nod yw ysbrydoli mwy o deithiau gwyrddach ar y rheilffordd.
- Roedd Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy a Gogledd Orllewin Cymru ar y rhestr fer am eu gwaith gyda plant a phobl ifanc ar ffurf prosiect celf yng Ngorsaf Conwy, gan annog pobl ifanc i deimlo ymdeimlad o berchnogaeth a phositifrwydd tuag at yr orsaf a'r rheilffordd.
Roedd yr un bartneriaeth hefyd ar y rhestr fer ar gyfer y wobr Dylanwadu ar Newid Cadarnhaol a Chynaliadwyedd gyda'u fideos ‘Hyder i Deithio'. Wedi'i anelu at bobl ag anableddau anweledig, mae'r fideos yn rhoi mewnwelediad ynglŷn beth i'w ddisgwyl wrth ddefnyddio bws neu drên a ble i ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth ychwanegol.
Cefnogir mwy na 50% o'r rhwydwaith rheilffyrdd ledled Cymru gan bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol, gwirfoddolwyr ffrindiau gorsafoedd a grwpiau rheilffyrdd cymunedol eraill. Dangosir bod eu gweithgareddau yn chwarae rhan bwerus wrth gefnogi blaenoriaethau polisi Cymru i annog a galluogi teithio a symudedd cynaliadwy, cynhwysol.
Dywedodd Jools Townsend, Prif Weithredwr Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol: “Roeddem yn falch iawn o gynnal ein Gwobrau Rheilffyrdd Cymunedol yng Nghymru eleni, lle mae rheilffyrdd cymunedol yn parhau i dyfu a ffynnu.
“Mae rheilffyrdd cymunedol yn arbennig o berthnasol a phwysig ar hyn o bryd, wrth i Gymru geisio symud tuag at drafnidiaeth fwy cynaliadwy a chynhwysol, i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar y cyfleoedd y maent eu heisiau, ac i ddenu ymwelwyr heb lygredd. Llongyfarchiadau i'n holl enillwyr, a diolch i bawb sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo rheilffyrdd cymunedol yng Nghymru.”
Dywedodd Marie Daly, Trafnidiaeth Cymru:“Roedd pawb ar ben eu digon ac roedd yn fraint o noddi gwobrau eleni yn Abertawe a chael cyfle i ddathlu'r gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud ledled y DU ac yn enwedig ar draws ein rhwydwaith ein hunain.
“Rydym mor ffodus i allu gweithio gyda chymaint o gymunedau a sefydliadau anhygoel trwy ein Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol. Rydym wir yn credu, trwy gysylltu ac annog cydweithredu ymhlith busnesau a sefydliadau mewn cymunedau lleol, y gallwn rymuso'r cymunedau hynny i weithio gyda'i gilydd ar ystod eang o faterion cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol, yn ogystal ag arddangos y gorau sydd gan ein rhwydwaith i'w gynnig.”