English icon English
BUSINESS SUPPORT - W

Llywodraeth Cymru yn ymestyn mesurau i ddiogelu busnesau rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Mehefin 2021

Welsh Government extends measures to protect businesses from eviction until end of June 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cyhoeddi y bydd busnesau manwerthu, lletygarwch a busnesau eraill y mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio arnynt bellach yn cael eu diogelu rhag cael eu troi allan hyd ddiwedd mis Mehefin 2021.

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cyhoeddi y bydd busnesau manwerthu, lletygarwch a busnesau eraill y mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio arnynt bellach yn cael eu diogelu rhag cael eu troi allan hyd ddiwedd mis Mehefin 2021.

Fel rhan o'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r gymuned fusnes, bydd y moratoriwm yn erbyn fforffedu am beidio â thalu rhent, a oedd i fod i ddod i ben ar 31 Mawrth, bellach yn cael ei ymestyn hyd 30 Mehefin, 2021.

Er y dylai busnesau barhau i dalu rhent lle bynnag y bo modd, bydd y mesur diweddaraf yn sicrhau na chaiff unrhyw fusnes ei orfodi allan o'i safle os bydd yn methu taliad rhwng nawr a diwedd mis Mehefin eleni. Bydd y cam hwn yn helpu i leddfu'r baich ar wahanol sectorau, gan gynnwys manwerthu a lletygarwch, mewn cyfnod sy’n parhau i fod yn eithriadol o heriol.

Mae pecyn cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yn ychwanegol at yr hyn sydd ar gael gan Lywodraeth y DU a dyma'r pecyn mwyaf hael yn y DU. Ers dechrau'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod mwy na £1.9bn wedi’i ddyrannu i fusnesau ledled Cymru ac mae mwy o arian yn cyrraedd cwmnïau bob dydd.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

"Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi rhoi pwysau di-ben-draw ar ein cwmnïau a'n pobl wrth i ni ddelio â’r coronafeirws a dyna pam rydym wedi symud yn gyflym i gefnogi'r gymuned fusnes drwy'r pandemig gyda phecyn gwerth dros £2 biliwn.

"Mae'r cyhoeddiad heddiw am ymestyn mesurau i atal fforffedu am beidio â thalu rhent yn adeiladu ar hynny ac mae'n hanfodol i ddiogelu busnesau rhag cael eu troi allan a sicrhau swyddi a bywoliaeth dros y misoedd nesaf.

"Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i'w helpu drwy'r cyfnod hynod heriol hwn."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:

"Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae'n hanfodol bwysig ein bod yn parhau i ddiogelu ein busnesau yng Nghymru. Gwyddom a deallwn y straen y mae'r feirws hwn wedi'i achosi i fusnesau ledled Cymru, gyda'r rheini yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a thwristiaeth yn cael eu taro'n arbennig o galed. Gobeithio y bydd y penderfyniad i ymestyn y moratoriwm yn erbyn fforffedu am beidio â thalu rhent hyd at ddiwedd mis Mehefin yn gwneud rhywfaint i sicrhau ein bod yn parhau i helpu i gefnogi canol ein trefi ac adeiladu'n ôl yn well wrth iddynt barhau i fasnachu yn ddiogel yn ystod y pandemig hwn.

"Mae rhoi naws o le i'n trefi yn bwysicach nag erioed, ac yn unol â'n hagenda Trawsnewid Trefi byddwn yn parhau i gydweithio â phartneriaid i adeiladu canol trefi cynaliadwy ar gyfer y dyfodol lle gall busnesau ffynnu."