- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
17 Maw 2021
Mae gwaith yn mynd rhagddo i foderneiddio gorsaf drenau Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o Weledigaeth Gwella Gorsafoedd Trafnidiaeth Cymru sy’n werth miliynau o bunnoedd.
Bydd nifer o gyfleusterau ychwanegol yn cael eu hychwanegu ar gyfer cwsmeriaid, gan gynnwys gosod sgriniau gwybodaeth newydd i gwsmeriaid yn y brif neuadd archebu.
Bydd y sgriniau’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am deithiau trên i gwsmeriaid, yn ogystal â gwybodaeth am wasanaethau bysiau lleol a gwybodaeth gyffredinol arall.
Mae’r gwelliannau hefyd yn cynnwys ail beintio’r bont droed ac ailaddurno ac adnewyddu’r ystafell aros ar Blatfform 2, yn ogystal ag ychydig o feinciau eistedd newydd sydd wedi’u hychwanegu at y ddau blatfform.
Bydd lloches newydd i feiciau hefyd gyda rhagor gylchoedd i gloi beiciau, a biniau ailgylchu ychwanegol ar draws yr orsaf. Byddwn yn gosod arwyddion newydd yn ogystal â goleuadau LED sy’n helpu i greu amgylchedd mwy diogel a chroesawgar.
Dywedodd Yasmin Browning, Rheolwr Prosiectau Gwella Gorsafoedd Trafnidiaeth Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd bod gwaith wedi dechrau ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rydyn ni eisoes yn gweld cymaint o gynnydd yn cael ei wneud i wella cyfleusterau ar gyfer ein cwsmeriaid mewn cymuned sy’n allweddol ar ein rhwydwaith.
“Ar ôl gorffen, rydyn ni’n credu y bydd y gwelliannau niferus rydyn ni’n eu gwneud i’r orsaf yn golygu y bydd ein cwsmeriaid yn gweld manteision mawr sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n fwy diogel, yn fwy cyfforddus, ac yn rhoi profiad mwy pleserus iddyn nhw.”
Mae contractwyr nawr ar y safle i drawsnewid yr orsaf dros yr wythnosau nesaf, a bydd y gwaith yn cael ei gwblhau ddiwedd mis Mawrth.