- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
09 Maw 2021
BYDD MWY o seddi a gwell trenau ar gael i deithwyr sy’n defnyddio rhwydwaith Cymru a’r Gororau o’r mis hwn ymlaen fel rhan o fuddsoddiad gwerth £15m gan Trafnidiaeth Cymru.
Dechreuwyd defnyddio’r Class 769 pedwar cerbyd diweddaraf – sy’n cynnig mwy o gapasiti, mwy o le a gwell hygyrchedd – drwy’r dydd ddiwedd mis Chwefror a bydd y cerbyd Class 150 cyntaf ar ei newydd wedd yn gadael depo TrC yn Nhreganna yr wythnos hon yn barod i’w ddefnyddio ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.
Maent yn rhan o fuddsoddiad ehangach o dros £15m i adnewyddu trenau i gwsmeriaid, sy’n cynnig mwy o seddi a gwell hygyrchedd.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Roedd gwella ansawdd ein trenau yn gymhelliant mawr i’n buddsoddiad yn ein rhwydwaith rheilffyrdd drwy Trafnidiaeth Cymru.
“Er mwyn annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, rhaid cael gwasanaethau cyfleus a dibynadwy, ond hefyd trenau a gorsafoedd o ansawdd uchel sy’n gwneud y rhwydwaith rheilffyrdd yn fwy deniadol i’w ddefnyddio. Felly, mae’n newyddion da iawn i weld y cynnydd hwn.”
Bydd TrC yn cyflwyno naw trên Class 769 i gyd. Mae dau drên eisoes yn cael eu defnyddio bob dydd a bydd mwy yn cael eu hychwanegu drwy gydol gweddill 2021.
Byddant yn cael eu defnyddio rhwng Caerdydd Canolog a Rhymni i ddechrau, gan stopio mewn nifer o drefi ar hyd y ffordd gan gynnwys Caerffili, Ystrad Mynach a Bargoed. Bydd y trenau Class 769, a elwir yn drenau Flex, yn teithio hyd at Benarth pan fydd mwy o drenau ar waith yn ddiweddarach eleni.
Mae TrC hefyd yn gwneud gwaith adnewyddu sylweddol ar ei fflyd o drenau Sprinter Class 150 sy’n rhedeg ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau. Bydd pob un o’r tri deg chwech o drenau dau gerbyd yn cael eu hadnewyddu a’u moderneiddio’n llwyr yn ogystal â chael lifrai newydd TrC ar y tu allan.
Byddwn yn adnewyddu gorchudd y seddi ac yn gosod arwyddion newydd ar gyfer seddi â blaenoriaeth a lle i gadeiriau olwyn a beiciau.
Ychwanegodd Alexia Course, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Trafnidiaeth yn TrC: “Mae ein rhaglen drawsnewid yn mynd rhagddi a bydd y trenau Flex newydd yn cynnig mwy o seddi, mwy o le a gwell hygyrchedd. Rydyn ni hefyd yn buddsoddi yn ein tri deg chwech o drenau Sprinter Class 150 i wella profiad cwsmeriaid ledled Cymru a’r Gororau.
“Rydyn ni’n dal i wynebu heriau anferth o ganlyniad i’r pandemig a dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn ceisio darparu rhagor o le a seddi ar ein trenau, yn ogystal ag adnewyddu’r dodrefn mewnol.
“Ein prif flaenoriaeth o hyd yw diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr ac rydyn ni’n buddsoddi ar gyfer y dyfodol pan fydd y cyfyngiadau’n cael eu llacio. Ar hyn o bryd, hoffwn ategu neges Llywodraeth Cymru, sef mai dim ond ar gyfer teithiau hanfodol y dylech ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a phan nad oes dewis arall ar gael.”