Skip to main content

Transport for Wales’ first female train driver and operations trainer hopes to inspire others

08 Maw 2021

Mae hyfforddwr gyrwyr trenau benywaidd cyntaf Trafnidiaeth Cymru, a oedd yn gyn-beiriannydd awyrennau’r Awyrlu Brenhinol cyn cael swydd fel rheolwr prosiect TrC, ymysg y rheini sy’n cael eu dathlu yn ystod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Mae Bev Hannible wedi cael dyrchafiad yn ddiweddar i fod yn Hyfforddwr Gyrwyr a Gweithrediadau yn TrC ac mae hi eisoes yn helpu i arwain y genhedlaeth nesaf o yrwyr trenau benywaidd i mewn i’r diwydiant.

Dechreuodd ei gyrfa fel goruchwyliwr trenau yn 2005 cyn symud ymlaen i fod yn yrrwr, ac nawr mae hi’n dechrau ar ei swydd newydd yn ysgol hyfforddi TrC.

“Yn ara’ deg a fesul tipyn mae mwy a mwy o fenywod yn ymgymryd â swyddi gyrwyr trenau, sy’n wych i’w weld,” meddai Bev. “Gyda mwy o fenywod mewn swyddi uwch, a minnau’r fenyw gyntaf i fod yn hyfforddwr, rwy’n gobeithio bod hynny’n cyfleu neges bwerus nad yw hwn yn ddiwydiant sy’n cael ei reoli gan ddynion yn unig.

“Byddwn i’n annog mwy o fenywod i feddwl am swydd fel gyrrwr. Mae gennym ni’r holl gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi, yn ogystal â chyfleoedd datblygu rhagorol a thîm gwych i’ch arwain drwy eich gyrfa.”

Mae Katherine Williams yn rhan o’r grŵp nesaf o yrwyr trenau sy’n cael eu hyfforddi ar hyn o bryd, yn dilyn gyrfa yn yr heddlu milwrol a gyda heddluoedd De Cymru a Gwent.

Dywedodd: “Mae wedi bod yn amgylchedd croesawgar iawn. Mae’r hyfforddiant wedi bod yn datblygu’n raddol ac mae’n dechrau cynyddu o ddifrif nawr.

“Byddai’n wych gweld mwy o fenywod ar y cwrs. I unrhyw fenywod sy’n ystyried ymuno â’r diwydiant rheilffyrdd, byddwn i’n bendant yn eu hannog i fynd amdani. Rwy’n falch fy mod i wedi penderfynu dilyn yr yrfa hon.”

Yn gynharach eleni, penodwyd Marie Daly yn Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig, ac mae hi wedi cyhoeddi partneriaeth newydd yn ddiweddar gyda Chwarae Teg, yr elusen cydraddoldeb rhywedd flaenllaw. Bydd yn rhoi mynediad i ni at lu o adnoddau a chymorth wrth weithio tuag at gyflawni cydraddoldeb ar draws y sefydliad.

Fel rhan o’i ymrwymiad i Gyfamod y Lluoedd Arfog, mae TrC hefyd wedi ffurfio partneriaeth â sefydliad i ymgysylltu â menywod sy’n gadael y fyddin, a allai fod yn addas ar gyfer rôl yn y sector trafnidiaeth.

Un o’r bobl gyntaf i elwa o’r cyswllt yw Beth Powell, sydd wedi ymuno â TrC fel rheolwr prosiect cynorthwyol yn y tîm seilwaith. Cyn hynny, bu’n beiriannydd awyrennau mecanyddol ar y Tornado GR4 yn yr Awyrlu Brenhinol am wyth mlynedd.

“Fe wnes i adael yr Awyrlu Brenhinol yn 2017 ar ôl genedigaeth fy mab hynaf oherwydd doedd y syniad o orfod mynd ar daith weithredol ddim yn apelio ataf i dim mwy,” meddai Beth. “Ar y pryd, doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n cael trafferth dod o hyd i swydd oherwydd y sgiliau roeddwn i wedi’u dysgu yn ystod fy nghyfnod gyda’r lluoedd, ond roeddwn i’n anghywir!

“Roeddwn i eisiau dod o hyd i swydd fel rheolwr prosiect yn y diwydiant rheilffyrdd, yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm, ac roeddwn i eisiau rôl a oedd yn fy herio ond, yn bwysicach na dim, yn fy nghefnogi.

“Rydw i wrth fy modd gyda fy swydd yn TrC. O’r diwedd, rwy’n teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi fel gweithiwr ac, yn bwysicaf oll, rwy’n cael fy nghefnogi yn fy mhrif swydd, sef bod yn fam.”