English icon English

Cynllun pum mlynedd i drawsnewid gwasanaethau fferylliaeth mewn ysbytai yng Nghymru

Five year plan set to transform hospital pharmacy services in Wales

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, wedi cytuno ar gynllun pum mlynedd newydd a fydd yn chwyldroi gwasanaethau fferylliaeth mewn ysbytai yng Nghymru. Bydd y cynllun yn trawsnewid y ffordd y bydd rhai o’r meddyginiaethau mwyaf arloesol sy’n achub bywydau, gan gynnwys therapïau canser, gwrthfiotigau mewnwythiennol a maeth drwy’r gwythiennau yn cael eu paratoi.

Mae’r rhaglen Trawsnewid Mynediad at Feddyginiaethau yn gynllun pum mlynedd. Mae’r Gweinidog wedi gofyn i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i ddatblygu achosion busnes ar gyfer y rhaglen gyda gofyniad cyllid dangosol o £67m.

Mae paratoi meddyginiaethau’n ddi-haint, a elwir hefyd yn wasanaethau aseptig, yn faes arbenigedd mewn gwasanaethau fferylliaeth yn yr ysbytai. Mae Gwasanaethau Aseptig yn gyfrifol am ddatblygu, paratoi a chyflenwi meddyginiaethau unigryw sy’n canolbwyntio ar y claf, gan gynnwys paratoi therapi gwrth-ganser systemig y gellir ei chwistrellu, paratoi maeth drwy’r gwythiennau ar gyfer pobl y mae eu cyflwr meddygol yn golygu nad ydynt yn gallu amsugno maeth o’r bwyd y maent yn ei fwyta, a radio-fferylliaeth a ddefnyddir i roi diagnosis a thriniaeth canser.

Gyda’r datblygiadau ym maes meddygaeth sy’n arwain at well canlyniadau i gleifion, mae’r galw am y gwasanaethau hanfodol hyn wedi bod yn cynyddu. Ar hyn o bryd, mae llawer o’r gwaith hwn yn cael ei wneud mewn ysbytai ar draws Cymru. 

Er mwyn ehangu gwasanaethau, bydd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn datblygu achosion busnes ar gyfer creu tri chyfleuster rhanbarthol integredig newydd yn y Gogledd, y De-orllewin a’r De-ddwyrain. Bydd union swm y cyllid yn cael ei gadarnhau wrth ddatblygu’r achosion busnes, ond nodwyd gofyniad cyllid dangosol o £67m.

Bydd y tri chyfleuster rhanbarthol yn cynyddu gallu GIG Cymru i baratoi’r meddyginiaethau y mae pobl eu hangen, a byddant yn galluogi’r GIG i fanteisio ar ddatblygiadau technolegol ac awtomatiaeth sy’n gwella diogelwch i gleifion ac yn rhoi mwy o amser i nyrsys ofalu am gleifion. 

Yn ogystal â’r cyfleusterau newydd, bydd y buddsoddiad yn cefnogi trawsnewid y gweithlu, gan greu swyddi newydd a rhoi hwb i gynhyrchiant. Bydd y cyllid hefyd yn creu cyfleoedd i’r GIG a phrifysgolion gydweithio i gefnogi treialon clinigol ac ymchwil i ddatblygu cynhyrchion arloesol sy’n galluogi rhoi meddyginiaeth yng nghartrefi pobl, neu’n agosach at eu cartrefi, yn hytrach nag yn yr ysbyty.

 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething; “Y cyfleusterau rhanbarthol hyn fydd y cyntaf o’u math yn y DU a byddant yn arwain at fanteision aruthrol, o ran triniaethau meddygol presennol a hefyd o ran galluogi datblygu ac ymchwilio i driniaethau newydd. Bydd y cyllid yn fuddsoddiad yng ngweithlu’r dyfodol ac yn datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer gwasanaeth y gwelir cynnydd yn y galw amdano. Bydd y cynlluniau a gyhoeddwyd heddiw yn cefnogi mynediad cleifion yng Nghymru at feddyginiaethau arloesol drwy ein Cronfa Triniaethau Newydd ac yn ategu ein hymrwymiad i sicrhau bod gan bobl ar draws Cymru fynediad prydlon at y triniaethau diweddaraf a gorau.”

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru Neil Frow: “Rwy’n croesawu cefnogaeth y Gweinidog i’r rhaglen uchelgeisiol hon sy’n fuddsoddiad sylweddol dros y 5 mlynedd nesaf. Mae’n enghraifft ardderchog o sut y mae Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’n dod ynghyd drwy’r Bartneriaeth Cydwasanaethau i gydweithio i gyflawni gwelliannau i gleifion yng Nghymru. Dros y blynyddoedd nesaf, bydd canolfannau newydd yn cael eu datblygu a fydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu’r gallu i gyflawni anghenion y gwasanaeth nawr ac yn y dyfodol.”