English icon English

Buddsoddiad o £75m i gael mwy o bobl i gerdded a beicio

£75m investment to get more people walking and cycling

Bydd cynlluniau teithio llesol a gyhoeddwyd heddiw yn derbyn hwb ariannol o fwy na £53m eleni fel rhan o ymdrechion pellach i annog teithio iach - gyda mwy nag £20m i ddilyn.

Mae'r gyllideb bwrpasol ar gyfer teithio llesol wedi codi o £5m ers dechrau'r tymor hwn gan Lywodraeth Cymru, y mae Lee Waters wedi'i ddisgrifio fel tystiolaeth o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni'r weledigaeth yn ei strategaeth drafnidiaeth newydd.

Cyhoeddwyd 'Llwybr Newydd' ac mae'n addo cynnydd beiddgar yn nifer y bobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio.

Bydd 44 o gynlluniau mwy a phecynnau o gynlluniau mewn awdurdodau lleol yn cael eu hariannu drwy gyfran gyntaf y Gronfa Teithio Llesol eleni, gwerth £47m. Yn y swm hwn mae hefyd 'dyraniad craidd' gwerth £14m a rennir ymhlith yr holl awdurdodau lleol.

Bydd £20m arall yn cael ei ddyrannu yn ddiweddarach yn y flwyddyn i gefnogi mwy o gynlluniau.

Yn ogystal, bydd disgyblion yn cael cymorth i gyrraedd yr ysgol drwy'r grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau – sydd bellach yn werth £6.4m. Bydd hyn yn cefnogi 21 o gynlluniau ledled Cymru ac yn canolbwyntio ar greu llwybrau cerdded a beicio diogel o amgylch ysgolion.

Mae'r buddsoddiad mewn teithio llesol yn rhan o becyn ariannu gwerth mwy na £210m i gefnogi'r strategaeth drafnidiaeth newydd.

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

"Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi gallu cynyddu y swm rydym yn ei wario ar deithio llesol yn sylweddol, ac mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i fwrw ymlaen â'r weledigaeth a amlinellwyd gennym yn ein strategaeth drafnidiaeth newydd.

"Cyn sefydlu'r Gronfa Teithio Llesol, bu'n rhaid i brosiectau teithio llesol nad oeddent yn canolbwyntio ar ysgolion gystadlu am gyllid grant trafnidiaeth leol cyffredinol, heb gyllideb benodol. Mae'r Gronfa Teithio Llesol wedi cynyddu ers 2018 o'i £10m cychwynnol i £70m ar gyfer 2021/22.

"Mae parhau â'n cyllid i greu llwybrau diogel i ysgolion yn arbennig o bwysig gan ein bod yn gwybod bod ymgorffori arferion teithio iach yn gynnar yn arwain at fanteision parhaol.

"Bydd ein buddsoddiad yn arwain at drefi a dinasoedd sydd wedi'u cysylltu'n well ac yn cyfrannu at ymdrechion i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd, gwella iechyd y cyhoedd a glanhau ansawdd yr aer."