English icon English

Bydd y buddsoddiad mwyaf erioed mewn cynlluniau rheoli perygl llifogydd yn parhau i ddiogelu cymunedau ledled Cymru

Record investment in flood risk management schemes will continue to protect communities across Wales

Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi'r symiau uchaf erioed mewn cynlluniau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru ar gyfer 2021/22, gan barhau i leihau'r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol i gymunedau, wrth i effaith yr argyfwng hinsawdd parhaus barhau i ddod i’r amlwg.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £36miliwn – y swm uchaf o arian cyfalaf i’w ddarparu mewn un flwyddyn – i gynghorau a Cyfoeth Naturiol Cymru i'w helpu i fuddsoddi mewn amddiffynfeydd newydd, gwaith cynnal a chadw a chynlluniau rheoli llifogydd drwy ddulliau naturiol.

Daw'r cyllid newydd yma ar ddiwedd tymor y Senedd lle mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £390 miliwn mewn gwariant cyfalaf a refeniw i helpu i fynd i'r afael â'r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol. Mae dros 45,000 o gartrefi a busnesau wedi elwa ar y cyllid hwn.  Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad mawr i gefnogi'r Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol sydd werth dros £150 miliwn.

Cyhoeddwyd yr arian heddiw (dydd Gwener, 19 Mawrth) gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

Fel rhan o’r Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn derbyn £17m – a bydd mwy na £7m yn cael ei fuddsoddi mewn gweithgareddau llifogydd craidd gan gynnwys prosiectau cynnal a chadw a mapio - a bydd Awdurdodau Lleol yn derbyn £19m.

Bydd prosiectau amddiffyn rhag llifogydd a gefnogir yn rhaglen 2021/22 yn helpu i leihau'r perygl i gymunedau mewn ardaloedd gan gynnwys Treorchi, Dyserth, Rhydaman, Glyn-nedd a Llansannan.

Bydd y rhaglen lawn ar gael ar-lein, ac fe'i dilynir gan fap sy'n dangos lledaeniad cynlluniau ledled y wlad.

Yn ogystal â chyllid cyfalaf ar gyfer cynlluniau, darperir £29.4 miliwn mewn refeniw i gefnogi gwaith ehangach ein Hawdurdodau Rheoli Risg, gan gynnwys staffio, allgymorth a gweithgareddau cynnal a chadw, sy’n golygu bod cyfanswm y buddsoddiad yn 2021/22 werth £65.4 miliwn.

Mae llifogydd a welwyd ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi amlygu'r angen am gefnogaeth barhaus i gymunedau sy'n wynebu mwy o berygl llifogydd – yn enwedig gan fod effaith barhaus yr argyfwng hinsawdd yn golygu bod achosion o lifogydd difrifol yn fwy tebygol yn y blynyddoedd i ddod.

Bydd llwyddiannau yn Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol y llynedd yn parhau hyd at 2021/22, gan gynnwys:

  • Cynnal cefnogaeth i CLlLC; Canolfan Monitro Arfordir Cymru a'r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol;
  • 100% o gyllid grant i Awdurdodau Lleol fel y gallant baratoi cynlluniau newydd, gan gynnwys achosion busnes, ymgyngoriadau a gwaith dylunio (arweiniodd y dull hwn at gynnydd o draean yn nifer y ceisiadau o 2020/21)
  • Cynyddu'r cyfraniad ariannol ar gyfer cyflawni prosiectau arfordirol o 75% i 85%
  • Cyllid o 100% ar gyfer y Rhaglen Rheoli Llifogydd Naturiol (NFM) - gan ddefnyddio dulliau cynaliadwy i leihau'r perygl o lifogydd, gyda 15 prosiect gwerth £2.8m yn parhau.
  • £4m ar gyfer atgyweirio asedau lliniaru llifogydd a ddifrodwyd – yn ogystal â £5m a ddarparwyd y llynedd
  • £4m arall i gefnogi'r Grant Gwaith Ar Raddfa Fach, gan alluogi awdurdodau lleol i fynd i'r afael â pherygl llifogydd drwy gynlluniau lliniaru llifogydd llai – cefnogi 86 o brosiectau ledled Cymru, a bod o fudd i fwy na 1,700 o eiddo.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: "Y llynedd, gwelsom olygfeydd ofnadwy o lifogydd ledled Cymru – gyda rhai cymunedau'n profi Llifogydd mwy nag unwaith. Roedd pandemig COVID-19 yn golygu bod effaith llifogydd hyd yn oed yn anoddach i ddelio ag ef nag arfer, a daeth ymateb i lifogydd yn anoddach.”

"Wrth i Gymru geisio mynd i'r afael ag achosion sylfaenol yr argyfwng hinsawdd, mae'n rhaid i ni hefyd ddelio â'i effeithiau, a helpu cymunedau i ymateb i'r tebygolrwydd cynyddol o dywydd garw. Yn anffodus, nid yw llifogydd 'unwaith mewn oes' bellach yn digwydd unwaith mewn oes.

"Bydd y cyllid mwyaf erioed sef £65.4 miliwn a ddarperir drwy ein Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd ar gyfer 2021/22 yn helpu i gefnogi cymunedau ledled Cymru wrth iddynt ymateb i fwy o berygl llifogydd, a daw ar ddiwedd tymor y Senedd lle y mae’r cyllid mwyaf erioed wedi’i fuddsoddi mewn cynlluniau llifogydd ac arfordirol.

"Mae hyn wedi bod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru drwy gydol y tymor hwn, ac rwy'n falch o'n llwyddiant hyd yma o ran lleihau'r perygl i gymunedau ledled Cymru o effeithiau dinistriol llifogydd ac erydu arfordirol."

DIWEDD