English icon English
stethoscope

Bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer canolfan ganser newydd yn y De-ddwyrain

New cancer centre for South East Wales given go-ahead

Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething a’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans wedi rhoi caniatâd i ddatblygu Canolfan Ganser Felindre newydd ar gyfer y De-ddwyrain.

Mae’r ganolfan ganser newydd yn un o dri phrosiect sy’n cael eu datblygu gan ddefnyddio Model Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru a ariennir gan refeniw.

Dywedodd Mr Gething fod y cynigion wedi bod yn destun proses graffu hir a manwl gan Lywodraeth Cymru.

“Mae ein Canolfan Ganser Felindre bresennol wedi darparu gwasanaeth eithriadol i bobl am nifer o ddegawdau. Mae’n adnabyddus fel lle arbennig ymhlith y bobl hynny sydd wedi angen y cymorth hollbwysig y mae’n ei gynnig ar un o’r adegau mwyaf anodd yn eu bywydau.

"Ond fel pob adeilad, daw amser pan mae angen i ni edrych tua’r dyfodol a sicrhau bod pobl yn gallu parhau i gael y gofal gorau posibl am y degawdau nesaf.

"Y bwriad yw y bydd drysau’r ganolfan newydd yn agor yn 2025, ac y bydd yn ganolbwynt i gynlluniau i ddarparu gwasanaethau canser o ansawdd uchel yn y De-ddwyrain. Bydd yn gweithredu fel rhan o rwydwaith integredig o ofal ar draws y rhanbarth a bydd hynny’n cynnwys gweithio’n agosach ag ysbytai eraill.

"Wrth i ni symud at y Felindre newydd, rhaid i ni sicrhau ein bod yn adeiladu ar yr ysbryd anhygoel hwn sydd wedi tyfu o amgylch Felindre, sy’n rhoi’r gobaith a’r cymorth y mae cynifer o’n cleifion a’n teuluoedd yn chwilio amdanynt.”

Bydd y ganolfan newydd yn ganolog i raglen o drawsnewidiadau i wasanaethau canser yn y De-ddwyrain. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer gwell mynediad at wasanaethau, mwy o gapasiti ac offer mwy diweddar. Bydd hefyd yn cynnwys gweithio’n agosach â gwasanaethau arbenigol eraill, datblygu ‘hybiau’ Felindre a gwelliannau i wasanaethau oncoleg acíwt ar draws y rhanbarth.

Ychwanegodd Rebecca Evans:

“Rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein seilwaith cymdeithasol ac economaidd i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

"Mae’n bleser gen i allu fwrw ymlaen â’r ymrwymiad yn ein maniffesto i gael ysbyty canser newydd gan ddefnyddio’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, sy’n parhau i hybu buddsoddiad cyfalaf mewn prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru.

"Bydd y dull gweithredu hwn yn caniatáu i ni adeiladu canolfan ganser newydd sawl blwyddyn yn gynt nag y byddai wedi digwydd fel arall.”

Dywedodd Steve Ham, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Felindre;

“Mae cael cymeradwyaeth ar gyfer ein achos busnes amlinellol yn foment bwysig i wasanaethau canser ac i bobl y De-ddwyrain. Mae’n cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i drawsnewid y gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig mewn partneriaeth â’n cleifion, partneriaid y Bwrdd Iechyd Prifysgol, partneriaid academaidd a’r trydydd sector. Byddwn yn parhau i roi anghenion a diogelwch ein cleifion wrth galon popeth a wnawn wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau, gan adeiladu ar ein hanes balch.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda phawb i gael adeilad sy’n bodloni anghenion ein cleifion, y gymuned leol a chenedlaethau’r dyfodol. Rydyn ni am i’r Ganolfan Canser Felindre newydd fod yn symbol blaenllaw o ddatblygu cynaliadwy drwy roi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wrth wraidd y gwaith dylunio, caffael, adeiladu a gweithredu yng Nghanolfan Ganser Felindre lle y bydd eraill yn dod i weld beth sy’n bosibl wrth ddatblygu seilwaith cynaliadwy.”

Nodiadau i olygyddion

Mae’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) yn ddull gweithredu arloesol i fuddsoddi mewn seilwaith cyhoeddus a ddatblygwyd yng Nghymru. Mae MIM wedi'i ddylunio gan Lywodraeth Cymru i ariannu prosiectau cyfalaf mawr oherwydd prinder cyllid cyfalaf.

https://llyw.cymru/y-model-buddsoddi-cydfuddiannol-ar-gyfer-buddsoddi-mewn-seilwaith