English icon English

Miliynau i Gasnewydd gyflawni argymhellion adroddiad Burns

Millions for Newport to deliver Burns report

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei haddewidion i wella trafnidiaeth yng Nghasnewydd a'r ardal o amgylch.

Mae Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, wedi cyhoeddi ein bod yn penodi Simon Gibson CBE fel Cadeirydd Bwrdd Cyflawni Burns, gyda Dr Lynn Sloman MBE yn Is-Gadeirydd iddo.

Gyda'i gilydd byddant yn goruchwylio datblygiad y 58 o argymhellion Burns gan yr Uned a sefydlwyd yn Trafnidiaeth Cymru, ac mae cyllideb o dros £4miliwn wedi’i chymeradwyo ar gyfer y gwaith.

Daw hyn wrth i fenthyciad o bron i £2 filiwn gael ei roi i Newport Transport Ltd i brynu bysiau trydan – ochr yn ochr â'r £11 miliwn yng ngrantiau Llywodraeth Cymru ar gyfer teithio llesol a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf.

Cyhoeddodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, y cytundeb o £1,850,000 i brynu cerbydau trydan fel rhan o gynlluniau i ddatgarboneiddio fflyd y cwmni, sy'n heneiddio.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth:

"Mae adroddiad Burns yn nodi cynllun ar gyfer system drafnidiaeth gyhoeddus fodern i Gasnewydd, a fydd yn lleddfu tagfeydd o amgylch yr M4 ac yn gwella gwasanaethau i drigolion y ddinas.Rydym wedi dweud o'r cychwyn nad ydym am i'r adroddiad hwn eistedd ar silff, rydym am weithredu. Felly rydym yn falch bod Simon Gibson wedi cytuno i arwain Bwrdd Cyflawni Burns o bartneriaid allweddol i sicrhau bod y syniadau yn yr adroddiad yn cael eu gwireddu.

"Yn ogystal, bydd y cytundeb y daethom iddo gyda Newport Transport Ltd yn dod â cherbydau allyriadau carbon isel i'r ardal, gan wella ansawdd aer a chynnig gwasanaeth o safon uchel i bobl y byddai'n well ganddynt beidio â gorfod dibynnu ar ddefnyddio ceir preifat.

"Ynghyd â'r tri phrosiect a fydd yn rhannu'r buddsoddiad o £11 miliwn mewn llwybrau newydd ar gyfer beicio a cherdded a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf - bydd Cyswllt Camlas Bettws a Malpas, y Cysylltiadau Dwyreiniol a Phont Teithio Llesol Devon Place i Queensway yn ei gwneud yn haws i bobl symud o amgylch y ddinas heb gar.

"Rydym hefyd yn ymestyn ein bysiau fflecsi ar alw i gwmpasu holl rwydwaith bysiau lleol Dinas Casnewydd, gan arddangos Cymru fel arweinydd byd-eang ym maes teithio sy'n ymateb i'r galw, gan gynnig model ar gyfer darparu bysiau yn y dyfodol mewn rhannau eraill o Gymru.

"O'i gyfuno â'r newyddion bod cynllun Gwella Amlder Rheilffordd Glynebwy wedi'i gymeradwyo, a fydd yn galluogi ail drên i redeg i Lynebwy a pharatoi'r ffordd ar gyfer pedair trên yr awr, gallwn weld symud i'r cyfeiriad cywir."

Yn ystod lansiad Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddwyd bod £70 miliwn yn ychwanegol ar gael i Gyngor Sir Blaenau Gwent i sicrhau'r gwasanaeth ychwanegol rhwng Casnewydd a Glynebwy, a chyfrannu at uchelgais tymor hwy o bedwar trên yr awr. Bydd yr arian yn galluogi gwelliannau i’r seilwaith, a fydd yn cael eu gwneud ochr yn ochr â Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru.

Dywedodd Simon Gibson CBE:

"Mae gwella opsiynau teithio yn allweddol i breswylwyr, cymudwyr a busnesau yn y rhanbarth. Mae angen datrys y materion hyn a chymryd camau i sicrhau patrymau teithio effeithiol yn sgil COVID-19 a fydd yn wahanol iawn i'r gorffennol. Rwy'n edrych ymlaen at ymgymryd â'r swydd hon, gan weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a'r holl randdeiliaid."

Dywedodd Dr Lynn Sloman MBE:

"Gweithiais gyda'r Arglwydd Burns i ddatblygu'r argymhellion uchelgeisiol hyn ar gyfer Casnewydd, gyda'r nod o wneud trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn Ne Cymru cystal ag yn y Swistir a'r Iseldiroedd. Mae llawer o waith i'w wneud, ac rwy'n falch iawn o'i weld yn symud ymlaen."