English icon English

Datganiad Llywodraeth Cymru - Ymateb i Adroddiad Grŵp Rhanddeiliaid Hinkley Point C

Welsh Government Statement - Response to Hinkley Point C Stakeholder Group Report

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn ddiolchgar iawn i grŵp cyfeirio Rhanddeiliaid Hinkley Point C - mae’r aelodau wedi rhoi eu hamser a’u harbenigedd i gyflawni’r gwaith hanfodol hwn.

“Gall penderfyniadau a wneir mewn un rhan o’r DU effeithio ar fywyd gwyllt a chymunedau mewn rhannau eraill o’r wlad - gyda hyn mewn golwg, gofynnodd y Prif Weinidog i’r grŵp ddarparu asesiad annibynnol o effaith datblygiad Hinkley Point C.

“Mae’r fframwaith cyfreithiol i wneud y dewisiadau amgylcheddol cywir eisoes ar waith trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

“Mae gan bob un ohonom ran i chwarae wrth sicrhau gwytnwch Aber Hafren a bydd unrhyw gamau a gymerir i’r perwyl hwnnw yn seiliedig ar ystyried y canfyddiadau a’r sylwadau a amlinellir yn yr adroddiad hwn.”