Skip to main content

Transport for Wales asks customers to be responsible

26 Maw 2021

Mae gan Trafnidiaeth Cymru neges glir i’r cyhoedd sy’n teithio’r penwythnos hwn; mae’n eu hannog i ddilyn yr holl gyngor teithio’n saffach ac i ymddwyn yn gyfrifol er mwyn Cadw Cymru’n Ddiogel.

Wrth i Lywodraeth Cymru lacio’r cyfyngiadau ‘Aros yn Lleol’, mae TrC yn atgoffa’r rheini sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus bod ganddynt gyfrifoldeb sylfaenol i ddilyn canllawiau, i gadw pellter cymdeithasol ac i gynllunio eu taith ymlaen llaw.

Mae TrC hefyd yn pwysleisio bod cyfyngiadau’n dal ar waith ar gyfer teithio rhwng Cymru a Lloegr.

Mae TrC yn gofyn i gwsmeriaid ddefnyddio’r Gwiriwr Capasiti – porth ar-lein sy’n galluogi cwsmeriaid i wirio cyn teithio er mwyn gweld ar ba drenau mae’r mwyaf o le gwag i allu dilyn mesurau diogelwch COVID-19.

Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd TrC:

“Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw ein prif flaenoriaeth, a drwy gydol y pandemig, rydyn ni wedi rhoi rhaglen fanwl ar waith i sicrhau bod y cyhoedd yn ddiogel.

“Gyda rhai cyfyngiadau nawr yn cael eu llacio, mae’n bwysig deall bod gan ein cwsmeriaid gyfrifoldeb hefyd.  Dilynwch ein holl gyngor teithio’n saffach, sy’n cynnwys gwisgo gorchudd wyneb, defnyddio hylif diheintio dwylo, dilyn ein systemau ciwio a’n systemau unffordd ac, yn bwysicaf oll, cynllunio eich taith ymlaen llaw a pheidiwch â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os oes gennych chi symptomau COVID-19.

“Os ydych chi’n defnyddio’r trenau, defnyddiwch y gwiriwr capasiti ac ystyried pryd yw'r amser mwyaf diogel i deithio, wedyn cynllunio yn unol â hynny.”

I gael rhagor o ganllawiau ar drafnidiaeth gyhoeddus, cliciwch yma.