Skip to main content

Works underway to improve Wrexham General station

02 Maw 2021

Bydd gorsaf Wrecsam Cyffredinol yn cael ei hailwampio’n sylweddol diolch i weledigaeth Trafnidiaeth Cymru ar gyfer gwella gorsafoedd.

Dechreuodd y gwaith ddiwedd mis Ionawr, ac mae contractwyr wedi bod ar y safle drwy gydol mis Chwefror er mwyn gwella’r mannau i gwsmeriaid, fel ystafell aros wedi’i hadnewyddu a’i hymestyn, cyfleusterau ystafelloedd newid newydd, adnewyddu toiledau, rhagor o lefydd parcio i feiciau a chyfleusterau ailgylchu ychwanegol.

Mae’r gwelliannau hyn yn rhan o’r weledigaeth ehangach i fuddsoddi miliynau o bunnoedd ym mhob un o’r 247 o orsafoedd ar draws ein rhwydwaith.

Dywedodd pennaeth y prosiectau gwella gorsafoedd, Hinatea Fonteneau: “Rydyn ni’n falch iawn o’r cynnydd rydyn ni’n ei wneud yn Wrecsam, fel rhan o’n gweledigaeth i wella gorsafoedd ar gyfer ein cwsmeriaid yn y cymunedau allweddol rydyn ni’n eu gwasanaethu ar draws ein rhwydwaith.

“Gobeithio y bydd y gwelliannau hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’w profiad wrth ddewis defnyddio ein gwasanaethau, drwy wella hygyrchedd cyffredinol a chreu amgylchedd mwy croesawgar sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n saff a diogel.”