- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
11 Gor 2023
Bydd taith i hyrwyddo beicio yr Haf TrC yn parhau ledled Cymru a'r Gororau yr wythnos hon.
Mewn partneriaeth â Heddlu Trafnidiaeth Prydain, mae TrC yn rhoi cyfle i'r cyhoedd gael marc wedi'i osod ar eu beic er mwyn ei ddiogelu a hynny yn rhad ac am ddim. Cynhelir y sesiwn nesaf yng Ngorsaf Reilffordd Pontypridd ddydd Mercher 12fed Gorffennaf rhwng 13:00-17:00.
Nod y digwyddiadau hyn yw ysbrydoli pobl i deithio'n fwy cynaliadwy a herio eu hunain i wneud yr addewid i fynd ar feic, boed hynny i gyrraedd y gwaith, i astudio neu i fwynhau taith hamdden leol.
Mae TrC yn gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill i helpu i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth integredig ledled Cymru, gan gynnwys darparu cefnogaeth a chyngor i awdurdodau lleol wrth ddatblygu a chyflwyno eu cynlluniau teithio llesol. Yn ogystal â hyrwyddo rhwydweithiau teithio llesol lleol a mentrau beicio, gall y rheini sy’n dod i’r digwyddiadau beiciau hyn gymryd rhan yn ein harolwg teithio llesol a chael eu cynnwys mewn raffl am ddim i ennill nwyddau sy'n gysylltiedig â beicio.
Dywedodd Matthew Gilbert, Pennaeth Teithio Llesol a Chreu Lleoedd TrC: “Nod ein digwyddiadau beicio dros yr haf yw dangos i bobl y cyfleoedd i feicio fel rhan o deithiau bob dydd. Rydym hefyd am glywed gennych am sut y gallwn ni – ar y cyd a'n partneriaid – wneud teithio llesol yn ddewis cyntaf i chi ar gyfer teithiau byr yn eich cymunedau.”
Bydd y daith yn parhau trwy gydol yr haf ac mae digwyddiadau wedi’i cynllunio yng ngorsafoedd Casnewydd, yr Amwythig a Bangor. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o ddyddiadau / lleoliadau dros yr wythnosau nesaf.
Dywedodd Andy Morgan, Uwcharolygydd o Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig: “Os oes marc diogelwch ar eich beic, mae'n ffordd hynod effeithiol ac amlwg o atal eich beic rhag cael ei ddwyn. O gael eu dal, fe ŵyr y lladron bod marc diogelwch ar y beic a bydd modd dod o hyd i'r perchennog yn gyflym. Mae hefyd yn sicrhau bod modd ei gwneud yn llawer hawl i ddwyn lladron i gyfrif.
“Rwy'n croesawu'r bartneriaeth werthfawr hon gyda Thrafnidiaeth Cymru a byddwn yn annog cymaint o berchnogion beiciau â phosibl i fanteisio ar y gwasanaeth rhad ac am ddim hwn.”
I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau Beicio TrC 2023 ewch i: https://dweudeichdweud.trc.cymru/ddigwyddiadau-beicio-2023 ac i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gynllunio taith gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar feic ewch i: https://trc.cymru/ffyrdd-o-deithio/beicio a Teithio ar feic ar y trên
Nodiadau i olygyddion
Pleser gan Beicio Cymru yw bod yn bartner i Trafnidiaeth Cymru (TrC) wrth i ni geisio annog pobl Cymru i fwynhau'r awyr iach a defnyddio'r beic i deithio pob dydd yr haf hwn.
Prif ddiben y bartneriaeth yw lansio her teithio llesol newydd ‘Parth Cefnogwyr’ – #AddewidTrC – sy'n golygu, yn syml iawn, eich bod yn mynd ar eich beic ac yn rhannu'ch profiad ar gyfryngau cymdeithasol.
Nod yr her yw eich annog i adael y car gartref a defnyddio eich beic ar gyfer teithiau ‘pwrpasol‘ pob dydd. Does dim ots os ydych chi'n beicio i'r gwaith, i’r ysgol, y siopau neu'n mwynhau taith haf i'r parc gyda'ch teulu – beth bynnag fo'r achlysur, mae Beicio Cymru a TrC am weld eich lluniau a'ch fideos er mwyn ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.
Mae cymryd rhan yn syml. Cliciwch yma ac fe fydd yr holl fanylion yn ymddangos. Gallech hefyd ennill gwobrau gwych, gan gynnwys set o helmedau Limar i'r teulu cyfan gan Beicio Cymru.