English icon English

“Rydyn ni am sicrhau bod Cymru'n lle gwych i dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo, nawr ac yn y dyfodol” - Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.

“We want Wales to be a wonderful place to grow up, live and work, now and in the future” – Deputy Minister for Social Services, Julie Morgan.

Bydd plant a phobl ifanc wrth wraidd unrhyw benderfyniadau a wneir, wrth i Lywodraeth Cymru ddatgan sut y bydd yn sicrhau bod Cymru'n lle gwych i dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo.

I nodi Dydd Gŵyl Dewi eleni mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan wedi cyhoeddi ‘Cynllun Plant a Phobl Ifanc’. Mae'r cynllun yn nodi saith blaenoriaeth drawslywodraethol ar gyfer y pedair blynedd nesaf er mwyn helpu i wireddu'r uchelgais hwn a chyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi plant a phobl ifanc.

Cafodd y cynllun ei lunio ar y cyd â phlant a phobl ifanc yn sgil ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd gyda 173 o blant a phobl ifanc, yn ogystal â sefydliadau partner ledled Cymru. Mae'n nodi'r gwaith sydd eisoes ar y gweill, a'r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn ystod y 12 mis nesaf i sicrhau y bydd pob plentyn, ni waeth beth fo ei gefndir:

  • Yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.
  • Yn cael ei drin yn deg.
  • Yn cael ei gefnogi ar ei daith drwy addysg, hyfforddiant a chyflogaeth neu hunangyflogaeth, ac wrth iddo symud rhwng y meysydd hynny. 
  • Yn cael ei gefnogi i deimlo'n gryf yn feddyliol ac yn emosiynol.
  • Yn cael ei gefnogi i gael cyfle teg mewn bywyd.
  • Yn cael cartref da a diogel i fyw ynddo.
  • Yn cael y cymorth sydd ei angen arno i aros gyda'i deulu, neu ailymuno â nhw, lle y bo’n bosibl.

Bob blwyddyn, bydd Gweinidogion yn mesur sut mae'r camau gweithredu a nodir yn y cynllun yn eu helpu i gyrraedd y naw carreg filltir uchelgeisiol y maent am i Gymru eu cyrraedd erbyn 2050, a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2015), ac yn adrodd ar hyn. 

Gan siarad â rhai o'r bobl ifanc a fu'n rhan o'r gwaith o ddatblygu'r cynllun, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Ein bwriad yw sicrhau bod Cymru'n lle gwych i dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo, nawr ac yn y dyfodol. Rydyn ni am i bob plentyn a pherson ifanc, ni waeth ble mae'n byw yng Nghymru ac ni waeth beth fo ei gefndir, gael y dechrau gorau mewn bywyd a'r cyfle i fyw ei fywyd fel sydd orau ganddo.

“Ond ni allwn ni wneud hynny ar ein pen ein hunain. Dyna pam rydyn ni'n gofyn ichi, ac i bawb yng Nghymru, weithio gyda ni. Gyda'n gilydd, gallwn ni gyflawni'r cynllun hwn i blant Cymru. Hoffwn i ddiolch yn arbennig i'r plant a'r bobl ifanc a rannodd eu sylwadau ar y blaenoriaethau wrth inni lunio'r cynllun hwn. Bydd eich cyfraniad, o ran llunio'r cynllun yn ogystal ag o ran ein helpu i'w gyflawni, yn hollbwysig i lwyddiant y cynllun.”

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Rydyn ni'n falch mai Cymru oedd y cyntaf ymhlith gwledydd y Deyrnas Unedig i osod hawliau plant yn y gyfraith. Roedd ein Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys rhaglen uchelgeisiol o gymorth i blant a phobl ifanc, ac mae'r Cynllun Plant a Phobl Ifanc hwn yn dod â'r holl ymrwymiadau hyn at ei gilydd.

“Mae gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i gael dechrau teg a diogel mewn bywyd, a chyfleoedd i wneud cynnydd yn ei addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda phobl ifanc i wireddu ein hymrwymiadau a sicrhau bod Cymru'n lle mae pawb yn tyfu i fyny gan wybod eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.”

 Dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr Plant yng Nghymru:

“Rydyn ni'n croesawu'r Cynllun Plant a Phobl Ifanc a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'n bleser mawr gennym glywed bod plant o bob cwr o Gymru wedi cael y cyfle i gyfrannu eu barn er mwyn llywio'r cynllun. Mae'n cadarnhau'r ymrwymiad cryf i hawliau plant a welir yng Nghymru. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid ac, yn bwysicach byth, blant a phobl ifanc er mwyn helpu i roi'r cynllun ar waith.”

Mae'r gyllideb derfynol ar gyfer 2022/2023 a gyhoeddwyd heddiw yn nodi buddsoddiad gwerth mwy na £1.3bn ar gyfer y blynyddoedd cynnar ac addysg yn benodol, yn ogystal â bron £0.75bn a roddwyd i awdurdodau lleol er mwyn darparu gwasanaethau hanfodol megis ysgolion. Bydd y cyllid hwn yn ychwanegu ymhellach at y gwaith o wella datblygiad a dysgu plant, er mwyn darparu'r cynnig gorau posibl, i sicrhau'r dechrau gorau mewn bywyd.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Notes

Quotes from young people:

‘The Children and young people’s plan is good because we had a say in what should be in the plan, and that’s important because it affects us’ -  Safiyah Hicks, age 13

‘The Children and young Peoples plan is good because all children in Wales can have a better life’ - Tanatswa Makwarimba, age 13

The Welsh Government is committed to children’s rights under the United Nations Convention on the Rights of the Child.

The Welsh ministers have set 9 milestones that they want Wales to achieve.

By 2050:

  • The percentage of children with 2 or more healthy behaviours will be more than 99%
  • 75% of working age adults will be qualified to level 3 or higher
  • The percentage of working age adults with no qualifications will be 5% or below
  • Wales will only use its fair share of the world’s resources
  • The pay gap for gender, disability and ethnicity will be eliminated
  • The gap between the employment rate in Wales and the UK will be eradicated, with a focus on fair work and raising labour market participation of under-represented groups
  • At least 90% of 16-24 year olds will be in education, employment or training
  • Wales will have a million Welsh speakers
  • Wales will achieve net-zero greenhouse gas emissions