English icon English

Gweinidog yn datgelu cynllun newydd i gael mwy o bobl yng Nghymru i weithio

Minister unveils new plan to get more people in Wales into work

Heddiw mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi datgelu cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru i helpu mwy o bobl yng Nghymru i ddod o hyd i waith ac aros mewn gwaith.

Mae'r Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau newydd yn nodi'r camau y bydd Gweinidogion yn eu cymryd i gyflawni'r Warant i Bobl Ifanc, cefnogi’r bobl sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur i ddod o hyd i waith, a chanolbwyntio ar wella’r canlyniadau yn y farchnad lafur i bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, menywod a'r rhai sydd â sgiliau isel.

Mae hefyd yn nodi mesurau i helpu pobl i aros mewn gwaith drwy godi lefelau sgiliau ac atal pobl rhag peidio â chymryd gwaith neu golli cyflogaeth oherwydd cyflwr iechyd.

Dywedodd y Gweinidog y bydd y cynllun yn helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer Cymru mwy teg a chyfartal lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl na'i ddal yn ôl, gan helpu i newid bywydau pobl er gwell.

Mae'r cynllun newydd yn nodi pum maes gweithredu allweddol dros dymor y llywodraeth hon, a fydd yn helpu i sicrhau bod Cymru’n cyrraedd cerrig milltir tymor hwy Llywodraeth Cymru.

Mae'r pum maes yn cynnwys:

  • Cyflawni’r Warant i Bobl Ifanc - er mwyn diogelu cenhedlaeth rhag effeithiau colli dysgu ac oedi wrth ymuno â'r farchnad lafur, a helpu i wneud Cymru’n wlad lle mae mwy o bobl ifanc yn teimlo'n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol.
  • Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd - drwy symud ffocws rhaglenni cyflogadwyedd at helpu'r rhai sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur i ddod o hyd i waith, a gwella’r canlyniadau yn y farchnad lafur i bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, menywod a'r rhai sydd â sgiliau isel. Mae hyn yn cynnwys adeiladu ar y dull cymunedol llwyddiannus mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol.
  • Hyrwyddo Gwaith Teg i bawb - drwy ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i wella'r cynnig i weithwyr, ac annog cyflogwyr i wneud gwaith yn well, yn decach ac yn fwy diogel.
  • Rhoi mwy o gefnogaeth i bobl â chyflyrau iechyd hirdymor allu gweithio – angori'r gwasanaeth iechyd yn well fel cyflogwr ac fel rhan o'r rhwydwaith cyflenwi i atal pobl rhag peidio â chymryd gwaith neu golli cyflogaeth oherwydd cyflwr iechyd.
  • Codi lefelau sgiliau a gwella hyblygrwydd y gweithlu - drwy ehangu cyfleoedd dysgu hyblyg a phersonol i bobl mewn gwaith ac allan o waith fel eu bod yn cael y cyfle i wella eu sgiliau, dod o hyd i waith neu ailhyfforddi drwy gydol eu bywydau.

Fel rhan o'r cynllun bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda'i phartneriaid i helpu i sicrhau bod 90% o bobl ifanc 16-24 oed yng Nghymru mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050. Bydd hefyd yn gweithio i ddileu'r bwlch cyflog ar gyfer menywod, unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a phobl anabl ac i ddileu'r bwlch yn y gyfradd gyflogaeth rhwng Cymru a'r DU gan ganolbwyntio'n benodol ar grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wrth lansio'r cynllun newydd:

"Mae ein Cynllun Cyflogadwyedd newydd yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru decach a mwy cyfartal lle rydym yn ymdrechu i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl na'i ddal yn ôl ac yn ymrwymo i newid bywydau pobl er gwell.

"Drwy'r cynllun hwn rydym am godi pobl allan o dlodi a helpu pawb - yn enwedig y rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur - i lywio ac ymateb i'r heriau sy'n gysylltiedig â gwaith y byddant yn eu hwynebu drwy gydol eu bywydau, boed hynny drwy hyfforddiant, ailhyfforddi, uwchsgilio, newid gyrfa neu ddechrau busnes. Bydd yn adeiladu ar y gwelliant sylweddol yn y farchnad lafur ac o ran sgiliau yng Nghymru ers cyhoeddi'r cynllun diwethaf yn 2018.

"Bydd hefyd yn ein helpu i ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau Cymru drwy sicrhau amrywiaeth yn y gweithlu, gan fanteisio i'r eithaf ar ein doniau yng Nghymru a datblygu economi sy'n gweithio i bawb.

"Gadewch i ni fod yn glir, ni allwn ddarparu’r cyfan o’r miliynau coll a gollwyd drwy Ymadael â'r UE, ond rydym wedi blaenoriaethu cyllidebau i hwyluso'r broses bontio ac i hybu ein buddsoddiad mewn pobl a sgiliau.

“Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gefnogi ein huchelgais i fuddsoddi yn noniau ein pobl a rhoi’r £1 biliwn a gollwyd yn ôl i Gymru.”

I gefnogi'r cynllun, fe wnaethom ymestyn y Cynnig Gofal Plant yr wythnos diwethaf er mwyn cefnogi rhieni i ymgymryd ag addysg a hyfforddiant.

Heddiw, mae'r Gweinidog yn cyhoeddi lansiad Twf Swyddi Cymru+, sy’n rhaglen gwerth £200m yn benodol ar gyfer pobl ifanc. Bydd hyn yn disodli rhaglenni presennol Twf Swyddi Cymru a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru.

O dan Twf Swyddi Cymru+, bydd pobl ifanc yn cael cymorth unigol i roi'r sgiliau, y cymwysterau a'r profiad iddynt ddod o hyd i swydd ac aros mewn cyflogaeth.

Mae hyblygrwydd a chymorth wedi'i deilwra yn ganolog i’r rhaglen newydd a bydd contractwyr yn gweithio gyda phobl ifanc i sicrhau bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt i fanteisio ar gyfleoedd, gan gynnwys oriau hyfforddi hyblyg a chymorth gyda theithio, costau gofal plant ac offer arbenigol.

Bydd cymorthdaliadau cyflog o hyd at 50% o gyflog y chwe mis cyntaf ynghyd â hyfforddiant yn y gwaith ar gael i fusnesau sy'n cyflogi pobl ifanc 16-18 oed drwy'r cynllun.

Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn lansio ReAct+, sy’n rhaglen newydd i uwchsgilio a helpu pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth ar hyn o bryd, a hefyd oedolion di-waith, i mewn i waith.

Mae'r ddwy raglen newydd hyn yn rhan o gynllun Gwarant i Bobl Ifanc uchelgeisiol Llywodraeth Cymru, sy'n dwyn ynghyd ystod eang o raglenni sydd wedi'u cynllunio i ddarparu'r cymorth cywir i bobl ifanc ledled Cymru. 

Dywedodd y Gweinidog:

"Bydd cefnogi busnesau Cymru i addasu, tyfu eu gweithlu a datblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol yn hanfodol.  

"Mae'r rhaglenni newydd hyn wedi'u cynllunio i helpu busnesau i recriwtio a chynllunio’u gweithlu, gan greu mwy o gyfleoedd gwaith yn y sectorau y mae angen i ni eu datblygu a chefnogi pobl ifanc ar eu taith i gyflogaeth ar yr un pryd. Yn bwysig iawn, maent yn rhan o'n Gwarant i Bobl Ifanc i sicrhau nad oes unrhyw berson ifanc yng Nghymru yn colli cyfle i gael gyrfa werth chweil oherwydd y pandemig.”