Skip to main content

Check before you travel: Storm Eunice weekend travel advice

18 Chw 2022

Bydd gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn ailddechrau ddydd Sadwrn (19 Chwefror) ond anogir cwsmeriaid i wirio cyn teithio a disgwylir y bydd tarfu ar y gwasanaethau trwy gydol y bore. 

Er bod cynlluniau ar y gweill i ailddechrau’r gwasanaethau yfory, gofynnir i gwsmeriaid gadw llygad ar yr wybodaeth deithio ddiweddaraf.  Ni fydd y difrod a'r effaith y mae'r storm wedi'i chael yn hysbys tan yn gynnar fore Sadwrn.

Yn ogystal, bydd gwasanaethau’n ailgychwyn yn hwyrach na’r amserlen arferol, fel y gellir mynd ati i asesu’r difrod yn ystod oriau golau dydd ac fel y gall Network Rail neu Amey Infrastructure wneud unrhyw waith atgyweirio.

Mae’n bosibl y bydd cwsmeriaid sy’n teithio ddydd Sadwrn naill ai’n gweld bod eu taith ddisgwyliedig yn anodd ei chwblhau neu fod amseroedd teithio’n cael eu hymestyn oherwydd cyfyngiadau cyflymder.  Bydd y cyfyngiadau cyflymder hyn yn parhau i fod ar waith oherwydd y rhagolygon ar gyfer y tywydd yfory.

Bydd nifer fach o wasanaethau yn cael eu disodli gan drafnidiaeth ffordd oherwydd y difrod o ganlyniad i Storm Eunice.  Bydd hefyd opsiynau trafnidiaeth ffordd gyfyngedig iawn a bydd gwasanaethau’n cael eu haddasu ar fyr rybudd. Felly, anogir cwsmeriaid yn gryf iawn i wirio cyn teithio.

Mae dydd Sadwrn a dydd Sul eisoes yn ddiwrnodau prysur i’n gwasanaethau gyda chwsmeriaid ychwanegol eisiau teithio heddiw (Dydd Gwener 18fed Chwefror 2022) yn dilyn Storm Eunice.  Bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu mwy o le ar wasanaethau lle bynnag y bo modd.

I’r cwsmeriaid hynny sydd â thocynnau i deithio ddydd Sadwrn (19eg), mae Trafnidiaeth Cymru yn derbyn y tocynnau hynny ddydd Sul 20fed a dydd Llun 21ain Chwefror.  Nid oes angen i gwsmeriaid newid neu ddiwygio tocynnau, dim ond dangos y tocynnau gwreiddiol i staff pan fo’r angen.

Dywedodd Martyn Brennan, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru: “Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw ein blaenoriaeth bennaf o hyd ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod y rhwydwaith yn ddiogel i allu rhedeg ein gwasanaethau.  Oherwydd y tywydd eithafol a achoswyd gan Storm Eunice, ni all llawer o'r gwaith archwilio gael ei wneud tan yn gynnar fore Sadwrn.  Golyga hyn na all gwasanaethau ailddechrau tan yn hwyrach na'r arfer.

“Y neges glir i’n holl gwsmeriaid yw gwirio cyn teithio i sicrhau bod y gwasanaeth yn gweithredu.  Oherwydd y rhagolygon tywydd parhaus, bydd yr holl wasanaethau hefyd yn gweithredu ar gyflymder arafach, felly caniatewch ddigon o amser ar gyfer eich taith.  Hoffwn ddiolch i’n cwsmeriaid am eu dealltwriaeth a’u hamynedd.”

Nodiadau i olygyddion


Nodiadau i'r Golygydd: 

  • Os bydd cwsmeriaid yn penderfynu peidio â theithio, yna mae ganddynt hawl i ad-daliad llawn am docynnau nas defnyddiwyd ar 19 Chwefror, oherwydd y storm. Gellir hawlio'r ad-dalid gan y gwerthwr tocynnau. Os prynwyd y tocyn ar wefan TrC neu ar yr ap, dylai cwsmeriaid ffonio Tîm Cymorth y We ar 0333 3211 202 a dewis opsiwn 2.  Neu, e-bostio customersupport@tfwrail.wales
    Mae canolfan gymorth tocynnau ar y we TrC ar agor ddydd Llun - ddydd Sul : 08:00 tan 22:00.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: https://trc.cymru/cymorth-a-chysylltu/rheilffordd/ad-daliadau 

Gall cwsmeriaid hefyd wirio gwefan TrC: https://trc.cymru/prynu-eich-tocyn/cadarnhau-amseroedd-trenau-phrynu-tocynnau 

Hefyd, bydd gwybodaeth am wasanaethau yn cael ei chyhoeddi ar gyfrif Twitter TrC: @tfwrail