English icon English
Ukraine Supplies 1-2

Cymru’n anfon cyflenwadau meddygol i Wcráin

Wales sends medical supplies to support Ukraine

Mae’r llwyth cyntaf o gyflenwadau meddygol, sy’n cynnwys peiriannau anadlu, rhwymynnau a masgiau wyneb, yn cael eu hanfon o Gymru hediw i gefnogi pobl Wcráin.

Cychwynnodd y cyflenwadau meddygol ar eu taith o Gymru y bore yma a byddant yn cael eu cludo mewn awyren i Wlad Pwyl, ac yna ymlaen i Wcráin.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Mae Cymru'n sefyll yn gadarn gydag Wcráin a'i phobl.

"Mae’r cysylltiadau rhwng Cymru ac Wcráin yn rhai hir a dwfn ac rydym yn barod i gynnig unrhyw gymorth ymarferol a dyngarol a allwn.

Y ffordd orau i bobl Cymru gefnogi Wcráin yw rhoi arian i'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau, fel y gall cyflenwadau gael eu prynu mor agos ag sy’n bosibl i’r mannau sydd eu hangen.

"Fodd bynnag, rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i ganfod pa gyflenwadau meddygol sydd eu hangen ar frys. Mae gennym ragor y gyflenwadau meddygol yn barod i fynd i Wcráin. Os gallwn ni helpu pobl Wcráin mewn unrhyw ffordd, fe wnawn ni hynny.”

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu £4 miliwn i'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau i ddarparu cymorth lle mae ei angen fwyaf yn Wcráin. 

Nodiadau i olygyddion

  1. The need for these supplies is based on information received from the Ukrainian Government, WHO or international aid partners.
  2. Today’s shipment contained 17 pallets:
    1. 14 pallets of FFP3 medical grade facemasks;
    2. 2 pallets of bandages
    3. 1 pallet of ventilators.
  3. We have more supplies available at the warehouse on standby in case of more requests for medical supplies.