English icon English
PDG access uniform

Mwy o deuluoedd i gael cymorth gyda chostau’r diwrnod ysgol

More families to receive support with costs of the school day

Bydd mwy o deuluoedd yng Nghymru yn cael arian ychwanegol i helpu gyda chostau fel gwisg ysgol a dillad chwaraeon o ganlyniad i gyllid gwerth £3.3m gan Lywodraeth Cymru.

Yn y gorffennol, roedd y Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) ond yn gymwys i blant yn rhai blynyddoedd ysgol penodol, ond bellach mae wedi’i ymestyn i blant o bobl blwyddyn, o’r Derbyn hyd at Flwyddyn 11.

Mae’r Grant yn darparu cyllid o hyd at £200 i helpu teuluoedd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim gyda’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig gyda mynd i’r ysgol, megis gwisg ysgol, dillad chwaraeon ac offer ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol eraill. Mae cost yr eitemau hyn yn gallu bod yn rhwystr i deuluoedd ar incwm is, a bydd ymestyn y Grant yn golygu bod teuluoedd yn gallu fforddio’r offer sydd eu hangen ar blant i fanteisio i’r eithaf ar eu haddysg.

Mae Jane* wedi bod yn derbyn y cyllid Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) ar gyfer ei phlentyn ieuengaf, a nawr mae ei chais ar gyfer ei phlentyn hynaf wedi bod yn llwyddiannus hefyd. Dywedodd:

“Rwy’n fam sengl i dri o blant, ac mae cael mynediad at y grantiau wedi bod yn anhygoel, ac wedi bod yn help mawr. Roeddwn i’n gallu gwneud cais am y grant ar gyfer fy merch ieuengaf a ddechreuodd yn y dosbarth Derbyn ym mis Medi, ac yn gallu prynu popeth oedd ei angen arni, yn ogystal â rhai crysau-t a theits ychwanegol.

“Ers i’r grant gael ei ymestyn i bob grŵp blwyddyn, rydw i wedi gwneud cais ar gyfer fy merch hynaf sydd ym Mlwyddyn 4. Fe wnes i gais ar-lein, a ches e-bost o fewn rhai oriau yn dweud bod y cais wedi cael ei dderbyn, ac y byddwn yn cael yr arian o fewn 14 diwrnod.

“Bydd yr arian hwn yn help mawr, gan fod costau popeth yn codi cymaint. Byddaf yn gallu gwneud yn siŵr bod ganddi wisg ysgol newydd ar gyfer yr Haf.”

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles:

“Gwyddom fod teuluoedd yn wynebu pwysau eithafol wrth i gostau byw godi, a gall y costau ychwanegol sy’n gysylltiedig gyda mynd i’r ysgol fod yn bryder gwirioneddol iddynt. Mae mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad dysgwyr yn flaenoriaeth allweddol i’r Llywodraeth hon, ac mae cael gwared ar y rhwystrau a’r pryder ynghylch costau’r diwrnod ysgol drwy fuddsoddi yn y Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad), yn un ffordd y gallwn gefnogi ein plant, ein pobl ifanc a’u teuluoedd.

“Mae Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) eisoes wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i nifer o deuluoedd ar draws Cymru, a thrwy ymestyn y ddarpariaeth, mae’n golygu y bydd mwy o blant yn gallu elwa, a phrynu’r dillad a’r offer sydd eu hangen arnynt.

“Rydw i am sicrhau nad yw incwm yn rhwystro plant rhag gallu gwneud gweithgareddau yn yr ysgol, a’u bod yn gallu cymryd rhan yn yr un gweithgareddau â’u cyfoedion ac yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gyrraedd eu llawn botensial.”

Mae ceisiadau ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) ar agor tan 30 Mehefin. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais yma

Nodiadau i olygyddion

*Names have been changed

Mr Lee Arthur, ALN Co-ordinator and Wellbeing Lead at Llanharan Primary School is available on request for interview:

“Even though our school’s uniform policy does not expect parents to purchase uniform branded with the school’s logo, the price of trousers, tops, shoes and coats etc. can soon mount up. Not having the appropriate clothing can have a significant impact on a child’s health but also on their self-esteem, confidence and emotional wellbeing. The PDG Access Grant has allowed parents the opportunity to purchase appropriate school uniform that has enabled our pupils to confidently attend school without poverty being a barrier to their attendance and learning.”