English icon English

Cynllun newydd i lansio sector gofod Cymru i orbit

New plan to launch Wales’ thriving space sector into orbit

Heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn lansio strategaeth newydd i sicrhau bod Cymru’n gweithredu ar flaen y gad yn y sector gofod byd-eang, gan helpu i greu swyddi o ansawdd uchel ar hyd a lled y wlad.

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi heddiw Strategaeth OfodGenedlaethol ar gyfer Cymru, Cymru: Cenedl Gofod Gynaliadwy, yn ystod ymweliad â Phrifysgol Caerdydd, sydd â hanes o gymryd rhan mewn ymchwil gofod o’r radd flaenaf.

Mae’r strategaeth yn tynnu sylw at yr amgylchedd ffisegol a busnes unigryw y mae Cymru’n ei gynnig i gwmnïau sy’n chwyldroi galluoedd yn y sector gofod. Mae hefyd yn nodi sut y gallai Cymru fod y genedl gofod gynaliadwy gyntaf erbyn 2040 – gan arwain y ffordd at ofod gwyrddach.

Ers 2010, gofod yw un o sectorau’r DU sydd wedi tyfu gyflymaf, gan dreblu mewn maint ers yr amser hwnnw. Mae’r sector bellach yn cyflogi 42,000 o bobl ac yn cynhyrchu incwm o £14.8 biliwn bob blwyddyn.

Mae sector gofod y DU eisoes wedi gosod targed o gyflawni cyfran 10% o farchnad flynyddol y sector gofod a ragwelir fydd yn werth £440 biliwn yn 2030. Uchelgais Llywodraeth Cymru yw i Gymru gyflawni cyfran 5% o gyfran y DU, a fyddai’n cyfateb i £2 biliwn y flwyddyn ar gyfer economi Cymru.

Dywedodd y Gweinidog bod y strategaeth wedi’i chynllunio er mwyn sicrhau bod ecosystem gofod Cymru mewn sefyllfa dda i fachu cyfleoedd a gyflwynir gan y potensial hwn i dyfu. Bydd hyn yn helpu i greu swyddi medrus â chyflog da yn agosach at gartref ac yn lledaenu ffyniant ar draws y wlad. Mae hwn yn rhan o uchelgais Llywodraeth Cymru i greu’r amodau lle mae pobl, yn benodol pobl ifanc, yn teimlo’n hyderus ynghylch cynllunio eu dyfodol yng Nghymru.

Mae’r strategaeth eisoes yn meddu ar sylfaen weithgynhyrchu a thechnoleg uwch gyda chryfderau penodol mewn sectorau sy’n rhannu elfennau o gadwyn gyflenwi’r diwydiant gofod, megis ffotoneg, awyrofod, systemau cyfathrebu a meddalwedd diogel. Mae hefyd yn darparu glasbrint i Gymru fod yn hafan ar gyfer gwaith arloesol y diwydiant gofod, sy’n seiliedig ar gynaliadwyedd.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae’r diwydiant gofod byd-eang yn trawsnewid yn gyflym iawn. Yn ein bywydau o ddydd i ddydd rydym yn dod yn fwy dibynnol ar y sector gofod a’r data y mae’n eu darparu, o ragolygon y tywydd, bancio ar-lein a’r Sat Nav yn ein cerbydau.

“Mae gan Gymru hanes o gyflawni gwaith gweithgynhyrchu ac arloesol o ansawdd uchel sy’n rhoi clwstwr bywiog o arweinwyr y diwydiant gofod sy’n gweithredu yma mewn sefyllfa wych i ffynnu yn y sector hwn sy’n tyfu.”

Mae Strategaeth Ofod Cymru’n canolbwyntio ar gynyddu potensial datblygiadau presennol ac yn y dyfodol yn y sector gofod yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Y gallu i lansio i'r gofod a chynnig hyfforddiant a phrofiad yn y Ganolfan Awyrofod yn Llanbedr yng Ngwynedd, a chynigion ar gyfer platfform lansio o’r môr i weithredu o Bort Talbot;
  • Cryfderau mewn meysydd megis galluoedd lloeren arsylwi’r ddaear yn isel, gan gynnwys Space Forge sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd sy’n datblygu lloeren gofod weithgynhyrchu y gellir ei hailddefnyddio. Mae’r cwmni’n bwriadu lansio’i lloeren gyntaf a wnaed yng Nghymru yn 2023, a’i dychwelyd yn 2024 a’i hail-lansio erbyn 2025. 
  • Mae technoleg lloeren a ddefnyddir i ddod o hyd i ddŵr ar blanedau eraill yn cael ei threialu yng Nghymru fel rhan o gyfleoedd posibl i wneud tomenni glo Cymru’n fwy diogel.
  • Profi a gwerthuso technolegau gyrru gwyrddach newydd mewn cyfleusterau presennol, gan gynnwys Llanbedr, Maes Tanio Aberporth yng Ngheredigion, Maes Tanio Maesyfed ym Mhowys a Phentywyn yn Sir Gaerfyrddin;
  • Clwstwr o gwmnïau arloesol gan gynnwys Airbus Defence & Space, Raytheon, Qinetiq, a Qioptiq – sy’n gweithgynhyrchu 98% o’r cyflenwad byd-eang o wydr sy’n gymwys i’r gofod a ddefnyddir mewn lloerenni a cherbydau’r gofod;
  • Rhwydwaith o gyfleusterau ymchwil ac addysgu, gan gynnwys y Catapwlt Lled-dargludyddion Cyfansawdd yng Nghasnewydd ac AMRC Cymru ym Mrychdyn, Sir y Fflint, sy’n cefnogi’r sector ymchwil a datblygu ledled y DU;
  • Partneriaeth Gofod Academaidd Cymru sy’n defnyddio arbenigedd academaidd cydweithredol gan sawl prifysgol o Gymru.

Dywedodd y Gofodwr Prydeinig, Tim Peake: "Mae gan ofod y gallu i ysbrydoli ac addysgu cenedlaethau'r dyfodol, yn ogystal â bod wrth wraidd datrys rhai o'r heriau anoddaf heddiw. Mae technoleg ac arloesi yn allweddol i ddatblygu ein heconomi gyda gweithlu medrus ac rwy'n falch iawn o weld bod Cymru'n croesawu'r cyfleoedd cyffrous sydd gan y sector gofod i'w cynnig."

Ychwanegodd y Gweinidog:

“Mae’r strategaeth newydd sy’n cael ei lansio heddiw yn darparu glasbrint ar gyfer sut y bydd Cymru’n manteisio ar botensial y sector hwn sy’n tyfu. Bydd yn creu ecosystem ofod ynghyd â swyddi medrus â chyflog da yn agosach at gartref, gan ledaenu ffyniant ar draws Cymru

“Mae’r sector cyffrous hwn hefyd yn cynnig agwedd newydd ar fynd i’r afael â newid hinsawdd ac mae’n cyd-fynd yn berffaith â’n ffocws ar ynni glân a’r agenda gwyrdd ehangach, sydd wedi’i hategu gan bolisïau a blaenoriaethau allweddol.

“Mae gan y DU uchelgeisiau i ddyblu maint y sector gofod erbyn 2030. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r twf hwn yn llawn ac rydym yn gweithio’n agos gydag Asiantaeth Ofod y DU i sicrhau bod ein strategaeth genedlaethol i Gymru’n cyd-fynd ag uchelgeisiau’r DU.”