English icon English

Cynllun cymhellion Llywodraeth Cymru i fusnesau ar gyfer recriwtio prentisiaid anabl wedi cynyddu a’i ymestyn am flwyddyn arall

Welsh Government incentives for businesses to recruit disabled apprentices increased and extended by a further year

Heddiw, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y bydd busnesau sy'n recriwtio prentisiaid anabl llawn amser dros y flwyddyn nesaf yn gallu disgwyl derbyn cymhelliant ychwanegol o £2,000.

Mae Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr ar gyfer Prentisiaid Anabl Llywodraeth Cymru, a gynlluniwyd i annog cyflogwyr i gael profiad uniongyrchol o fanteision recriwtio pobl anabl, yn cael ei ymestyn o 1 Ebrill 2022 tan ddiwedd mis Mawrth 2023, gyda chynnydd o £500.  

Mae'r ymrwymiad yn cefnogi cynllun cyflogadwyedd newydd Llywodraeth Cymru, Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach: Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau, a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon, sy'n rhoi blaenoriaeth i gefnogi'r bobl hynny sydd bellaf o'r farchnad lafur.

Mae'r Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr ar gyfer Prentisiaethau presennol, sydd wedi bod yn rhan allweddol o ymrwymiad Covid Llywodraeth Cymru i gynorthwyo busnesau a gweithwyr i wella o effeithiau coronafeirws, hefyd yn cael ei ymestyn i 31 Mawrth, 2022.

Roedd y cynllun cymhellion, sydd eisoes wedi gweld mwy na 6,100 o brentisiaid newydd yn cael eu recriwtio ers mis Awst 2020, i fod i gau ar 28 Chwefror 2022.

O dan gynllun presennol Llywodraeth Cymru gall busnesau hawlio hyd at £4,000 am bob prentis newydd o dan 25 oed y maent yn ei gyflogi. Mae’r cynnig hwn ar gael i fusnesau sy'n cyflogi prentis ifanc am o leiaf 30 awr yr wythnos.

Gall busnesau Cymru hefyd dderbyn £2,000 ar gyfer pob prentis newydd dan 25 oed y maent yn ei gyflogi am lai na 30 awr yr wythnos.

Ar gyfer gweithwyr 25 oed a hŷn, gall busnesau gael £2,000 ar gyfer pob prentis newydd y maent yn ei gyflogi ar gontract o 30 awr neu fwy, a chymhelliant o £1,000 ar gyfer prentisiaid sy'n gweithio llai na 30 awr.

Bydd cyflogwyr sy'n recriwtio prentis anabl ar neu cyn 31 Mawrth 2022 yn gallu gwneud cais am gyllid o'r Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr ar gyfer Prentisiaethau a'r Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr ar gyfer Prentisiaid Anabl presennol, sef £1,500 fesul prentis anabl.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Yng Nghymru rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl ag anableddau i ddod o hyd i waith ac aros mewn gwaith.

"Rydyn ni eisoes yn gweld yr effaith gadarnhaol y mae ein cymorth penodol yn ei chael o ran gwella canlyniadau'r farchnad lafur i bobl anabl. Rwy’ am weld hynny'n parhau fel rhan o'n hymrwymiad i newid bywydau pobl er gwell, a bydd ymestyn y cymhelliant prentisiaeth i'r anabl am flwyddyn yn allweddol i'n helpu i gyflawni hyn.

"Mae helpu pobl i oresgyn rhwystrau rhag dod o hyd i waith ac aros mewn gwaith yn ganolog i'n Cynllun Cyflogadwyedd newydd a ddatgelwyd yr wythnos hon. Mae'r cynllun yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru decach a mwy cyfartal lle rydym yn gweithio i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl na'i ddal yn ôl.

"Bydd prentisiaethau yn ein helpu i gyflawni hyn. Gallant helpu i ysgogi gweithlu amrywiol, yn barod at y dyfodol - gan gynnig cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o ansawdd uchel. Maent hefyd yn hanfodol i'n cynlluniau uchelgeisiol i adfer yn economaidd ar ôl Covid. Dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i greu 125,000 arall o leoedd prentisiaeth i bob oed dros y pum mlynedd nesaf.

"Mae ein Cynllun Cymhellion Prentisiaethau ehangach wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran annog busnesau i barhau i recriwtio prentisiaid tra ein bod i gyd wedi bod yn rheoli heriau Covid ac rwy'n falch ein bod wedi gallu ymestyn y pecyn cymorth ehangach hwnnw am un mis olaf.

"Rydym yn wlad fach ond uchelgeisiol, a'n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mae recriwtio prentis yn dod yn norm i gyflogwyr."

Mae ymgyrch 'Yn Gefn i Chi' Llywodraeth Cymru yn annog cwmnïau ar hyd a lled Cymru i fanteisio ar gymorth recriwtio a gwella sgiliau gweithwyr newydd a phresennol sydd ar gael drwy'r Porth Sgiliau i Fusnesau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Borth Sgiliau Busnes Cymru.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog Llywodraeth y DU i roi arian yn lle’r miliynau coll sy’n ddyledus i Gymru o dan gronfeydd olynol yr UE.