Skip to main content

‘Wales on Rails’ - New Sustainable Tourism Project Launched

10 Maw 2022

Mae prosiect twristiaeth newydd o'r enw 'Cledrau Cymru' wedi'i lansio i annog mwy o bobl i deithio o amgylch Cymru yn gynaliadwy gan ddefnyddio'r rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol, rheilffyrdd treftadaeth a bysiau.

Mae Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru a Croeso Cymru wedi cyd-ariannu’r fenter newydd sy’n hyrwyddo’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn gallu cysylltu atyniadau allweddol i dwristiaid ac sy’n rhoi cyfle i ymwelwyr brofi rhai o rwydweithiau rheilffyrdd mwyaf golygfaol y byd.

Trwy ddefnyddio'r wefan   www.walesonrails.co.uk  , gall ymwelwyr gynllunio eu taith o amgylch Cymru a dewis o blith themâu atyniadau ymwelwyr megis bwyd gwych, anturiaethau anhygoel, treftadaeth arwrol, gerddi godidog a'r awyr agored hygyrch. 

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Mae hon yn bartneriaeth ragorol sy'n annog anturiaethau diogel, cynaliadwy llawn  golygfeydd godidog ledled Cymru, ac sy'n arddangos y cyfoeth o brofiadau sy'n hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus.   Mae'r fenter newydd hon yn ei gwneud hi'n haws i bobl gynllunio eu teithiau – tra hefyd yn defnyddio dulliau cynaliadwy o deithio."

Ychwanegodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru:

“Mae 'Cledrau Cymru' yn cyfuno rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, 12 o reilffyrdd treftadaeth a stêm, a'n llwybrau bysiau, gan roi cyfle i bobl ddefnyddio'r rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy hwn i deithio o amgylch y wlad i amrywiaeth o atyniadau twristiaeth.

“Nid yn unig mae’n ffordd ddiogel a chynaliadwy o deithio o amgylch Cymru ond mae’r teithiau eu hunain yn rhan fawr o’r atyniad, gan fod rhai o’n llwybrau rheilffordd yn cael eu hystyried y rhai mwyaf golygfaol yn y byd.”     

“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft arall o bwysigrwydd ein Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol yn Trafnidiaeth Cymru a sut maen nhw’n gweithio ar y cyd i greu buddiannau cymdeithasol ac economaidd i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.”

Mae’r prosiect yn cael ei reoli gan Great Little Trains of Wales / Trenau Bach Gwych Cymru, sef partneriaeth sy’n hyrwyddo’r 12 rheilffordd treftadaeth yng Nghymru ac yn cael ei chefnogi gan 5 Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol.

Ychwanegodd David Jones, rheolwr cyffredinol Rheilffordd Llyn Tegid a Chadeirydd Great Little Trains of Wales:

“Mae gan Gymru rai o’r rheilffyrdd mwyaf golygfaol yn y byd. Wrth i ni ddechrau teithio mwy, byddai’n wych pe byddai pobl yn ystyried ymweld â Chymru mewn ffordd gynaliadwy a gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan o’u hymweliad neu eu prif reswm dros ymweld â Chymru.”

Dywedodd Hugh Evans, Pennaeth Rheilffyrdd Cymunedol TrC:

'Mae hwn wedi bod yn gydweithrediad cyffrous rhwng Trenau Bach Gwych Cymru a'n Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol.  Diolch yn fawr i bawb fu’n rhan o’r prosiect.  Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyflawni mwy o brosiectau cyffrous ledled Cymru a’r gororau.”