English icon English

Cymru yn cwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd sero

Wales completes move to alert level zero

Bydd Cymru yn cwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd sero yfory wrth i achosion y coronafeirws sefydlogi, cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Hwn fydd y cam olaf ym mhroses raddol Llywodraeth Cymru o godi camau diogelu lefel rhybudd dau, a ddaeth i rym ar ddydd San Steffan i ddiogelu Cymru wrth i’r don omicron ledaenu drwy’r wlad.

Bydd rhai camau diogelu pwysig yn aros mewn grym ar lefel rhybudd sero, gan gynnwys gwisgo gorchudd wyneb yn y rhan fwyaf o lefydd cyhoeddus dan do, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford bod modd llacio’r camau diogelu oherwydd gwaith caled pawb yng Nghymru a llwyddiant y rhaglen frechu – mae mwy nag 1.8m o bigiadau atgyfnerthu wedi’u rhoi.

Ers dechrau mis Rhagfyr hefyd, mae mwy na 36,000 o bobl wedi dod i gael eu dos cyntaf o’r brechlyn Covid-19.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Mae penllanw ton omicron wedi mynd heibio ac mae arwyddion cadarnhaol bod achosion y coronafeirws yn dechrau sefydlogi. Er hynny, mae angen i bawb barhau i gymryd camau i’w diogelu eu hunain – nid yw’r pandemig wedi dod i ben eto yn anffodus.

“Rydyn ni’n symud i lefel rhybudd sero a byddwn yn parhau i gymryd rhai camau diogelu pwysig, fel gwisgo gorchudd wyneb yn y rhan fwyaf o lefydd cyhoeddus dan do a chynnal asesiadau risg.

“Mae modd gwneud hyn oherwydd ymdrechion a gwaith caled pawb yng Nghymru a llwyddiant rhyfeddol ein rhaglen frechu a’r pigiadau atgyfnerthu. Diolch i bawb.”

Ddydd Gwener 28 Ionawr, bydd Cymru yn cwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd sero. Mae hyn yn golygu’r canlynol:

  • Gall clybiau nos ailagor
  • Bydd y gofyniad cyffredinol i gadw pellter cymdeithasol o 2m ym mhob safle sy’n agored i’r cyhoedd a phob gweithlu yn cael ei ddileu
  • Ni fydd y rheol chwe pherson yn berthnasol mwyach wrth ymgynnull mewn safleoedd a reoleiddir, fel safleoedd lletygarwch, sinemâu a theatrau
  • Ni fydd angen i safleoedd trwyddedig ddarparu gwasanaeth bwrdd yn unig a chasglu manylion cyswllt mwyach
  • Bydd angen cael Pàs Covid o hyd i fynd i ddigwyddiadau dan do mawr, clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd
  • Bydd gweithio gartref yn dal i fod yn bwysig ond ni fydd hyn yn ofyniad cyfreithiol mwyach
  • Rhaid i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill barhau i gynnal asesiad risg penodol i’r coronafeirws a chymryd camau rhesymol i leihau ei ledaeniad, a all gynnwys pellter cymdeithasol o 2m neu fynediad dan reolaeth

Bydd y rheolau ar gyfer gwisgo gorchudd wyneb, sy’n gymwys ar drafnidiaeth gyhoeddus ac yn y rhan fwyaf o leoliadau dan do cyhoeddus, yn parhau i fod mewn grym ar ôl 28 Ionawr, gyda lleoliadau yn y diwydiant lletygarwch fel bwytai, tafarnau, caffis a chlybiau nos wedi’u heithrio.

Rhaid i bawb hefyd barhau i hunanynysu os ydynt yn profi’n bositif am y coronafeirws ond mae Llywodraeth Cymru wedi lleihau’r cyfnod hunanynysu o saith diwrnod i bum diwrnod llawn.

Cynghorir i bobl gymeryd dau brawf llif unffordd negatif 24 awr ar wahan ar ddiwrnod pump a diwrnod chwech. Bydd y cynllun cymorth hunanynysu yn dychwelyd i’r gyfradd wreiddiol o £500 ar gyfer pawb sy’n gymwys.

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau coronafeirws yn cael ei gynnal erbyn 10 Chwefror, pan fydd holl fesurau lefel rhybudd sero yn cael eu hadolygu.