Skip to main content

Where did the Pacers go?

31 Ion 2022

Ymddiswyddwyd y trenau Pacer olaf i weithredu yng Nghymru yn 2021 ar ôl mwy na 30 mlynedd o wasanaeth.

Fe’u disodlwyd gan wyth Class 769 sydd â mwy o gapasiti, mwy o le a gwell hygyrchedd.  

Mae diwedd gwasanaeth hir ar reilffyrdd y Cymoedd a llwybrau lleol Caerdydd yn gam sylweddol yn eu trawsnewid fel rhan o ddatblygiad Metro De Cymru, lle mae tri chwarter biliwn o bunnoedd yn cael ei fuddsoddi i foderneiddio Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd.  Bydd y trenau a'r trenau tram newydd sy'n cael eu hadeiladu yn cynyddu ein capasiti yn sylweddol ac yn gweddnewid profiadau teithio ein cwsmeriaid. Bydd ganddynt hefyd nifer o adnoddau ychwanegol; mae’r trên yr un lefel â’r platfform sy’n ei gwneud hi’n haws i fynd ar y trên, mwy o le storio beiciau a system aerdymheru.

Er bod rhai o'r Pacers wedi cyrraedd diwedd eu hoes a'u tynged fydd yr iard sgrap, bydd rhai yn parhau i weithio ac yn cael eu mwynhau am flynyddoedd i ddod.

Rhoddwyd tri Pacer i Reilffordd Llanelli a Mynydd Mawr, lle maent wedi cael bywyd newydd. Mae sawl un arall wedi'u rhoddi i reilffyrdd treftadaeth a phrosiectau cymunedol.

Cyrhaeddodd Uned 142006 ei chartref newydd yng Nghynheidre, Sir Gaerfyrddin ar 15 Chwefror 2021, a bydd 143606 a 143607 yn gwneud eu ffordd yno ym mis Mai.  Ar hyn o bryd, mae'r tair uned yn parhau i weithio ac wedi bod yn boblogaidd gydag ymwelwyr mewn diwrnodau agored diweddar.

142006 iii

O ran y dyfodol, gobaith y rheilffordd yw cadw’r 142006 ac un o'r Class 143 fel aelod hirdymor o'u fflyd weithredol.  Maen nhw'n archwilio opsiynau ariannu i adfer y 142 i lifrai coch, gwyn a gwyrdd Cledrau'r Cymoedd, cyn weithredwr gwasanaethau rheilffyrdd yn Ne Cymru.  Maen nhw hefyd yn bwriadu cynnig profiad gyrrwr ar y Pacers, rhoi cyfle i gwsmeriaid yrru un o'r trenau ar eu lein fer.Ddiwedd mis Awst 2021, cynhaliodd y rheilffordd ddiwrnod gala Pacer a oedd yn cynnwys y tair uned yn ogystal â'r Red Arrows yn hedfan uwchben. Dywedodd llefarydd ar ran Rheilffordd Llanelli a’r Mynydd Mawr “mae siawns mai dyma’r digwyddiad mwyaf llwyddiannus i ni erioed ei gynnal ar y rheilffordd”.

Yn ogystal, mae'r rheilffordd wedi cynllunio prosiect i drosi un o'r trenau Class 143 i rôl ‘statig’ ar y rheilffordd, lle bydd caffi, arhosan a chyfleuster tocynnau.  Mae'r seilwaith ar gyfer y prosiect, yn ogystal â gwaith uwchraddio cyffredinol arall yn y safle, yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, a bydd gwaith ar yr uned yn dechrau unwaith y caiff hwn ei gwblhau.

Mae Rheilffordd Llanelli a Mynydd Mawr yn “hynod ddiolchgar” i TrC a’i bartneriaid am sicrhau bod y trenau hyn ar gael ac yn gobeithio parhau i ddathlu’r Pacers a’i flynyddoedd o wasanaeth i bobl De Cymru am flynyddoedd i ddod.

Nepell i ffwrdd yn Llanelli, saif 143622 bellach o fewn terfynau’r hen sied nwyddau.  Rhoddwyd y trên i Ymddiriedolaeth Sied Nwyddau Rheilffordd Llanelli, sy’n adfer y strwythur rhestredig Gradd II* hanesyddol er mwyn ei drawsnewid yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau diwylliannol, treftadaeth, cymunedol a menter.

Mae Pacers blaenorol eraill TrC wedi teithio dros y ffin i Loegr i gael eu diogelu ar reilffyrdd treftadaeth.  Yn eu mysg, mae Rheilffordd Ysgafn Dyffryn Tanat yn Swydd Amwythig, Rheilffordd Dyffryn Nene yn Swydd Gaergrawnt a Rheilffordd Wensleydale yng Ngogledd Swydd Efrog.  Gan redeg ochr yn ochr â locomotifau stêm 100 mlwydd oed, trenau disel a thrydan arloesol, a Pacers oedd yn rhedeg o dan weithredwyr eraill ar draws rhwydwaith Prydain, maent yn cynrychioli elfen bwysig iawn yn hanes ein rheilffyrdd na fydd byth yn angof.

Penarth station