English icon English
Eluned Morgan Desk-2

Cynllun iechyd yn 'help aruthrol' i leddfu pwysau’r gaeaf ar y Gwasanaeth Iechyd

Health plan scheme a ‘massive help’ in easing NHS winter pressures

Mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, wedi dweud y bydd cynllun sy'n helpu pobl agored i niwed i gael eu trin gartref ac osgoi ymweliadau diangen ag adrannau damweiniau ac achosion brys yn 'help aruthrol' i leddfu'r pwysau ar Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn ystod misoedd y gaeaf.

Yn hwyrach eleni, bydd 'Fy Nghynllun Iechyd y Gaeaf' yn nodi pum mlynedd o fodolaeth. Mae’r cynllun, sydd wedi cael ei ddiweddaru cyn cyfnod y gaeaf hwn, yn cynnig ffordd hawdd i bobl sydd â chyflyrau iechyd corfforol neu iechyd meddwl hirdymor rannu gwybodaeth â gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n ymweld, er mwyn iddynt gael y gofal cywir ar gyfer eu hamgylchiadau personol.

Mewn argyfwng, felly, bydd gweithwyr iechyd yn gallu defnyddio'r wybodaeth hon fel sail ar gyfer eu penderfyniadau a'u trafodaethau â chleifion am yr opsiynau triniaeth cywir iddynt.

Mae'r cynllun yn helpu i alluogi pobl i gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd a'u gofal eu hunain dros y gaeaf drwy rannu gwybodaeth allweddol mewn fformat sy’n hawdd ei ddefnyddio.

O ganlyniad, bydd modd cefnogi a thrin mwy o bobl yn y gymuned pan fo hynny’n bosibl, heb fod angen mynd â nhw i'r ysbyty.

Gall hyn yn ei dro osgoi ymweliadau diangen ag adran damweiniau ac achosion brys, lleihau derbyniadau i'r ysbyty a lleddfu'r pwysau ar gapasiti gwelyau yn ystod misoedd heriol y gaeaf.

Gall cael yr wybodaeth hon wrth law yn hwylus yn ystod argyfwng fod yn gwbl hanfodol.

Mae'r cynllun wedi'i dargedu at unrhyw un sy'n byw gyda phroblem iechyd corfforol neu iechyd meddwl hirdymor, pobl hŷn sydd ag anghenion iechyd parhaus, unrhyw un y gallai fod angen cymorth arnynt gan staff iechyd a gofalwyr cofrestredig ac aelodau o'r teulu sy'n gofalu am bobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor.

Mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth o'r cynllun, bydd 20,000 o gynlluniau personol ychwanegol yn cael eu dosbarthu'r gaeaf hwn. Bydd y cynlluniau hynny ar gael o fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru a bydd modd eu lawrlwytho hefyd o wefan GIG 111 Cymru.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd: "Mae cyfnod y gaeaf hwn wedi bod yn un o'r rhai mwyaf heriol y mae ein Gwasanaeth Iechyd wedi'i wynebu erioed, gyda’n hysbytai yn cael eu rhoi o dan gryn straen yn sgil effaith yr amrywiolyn Omicron ar yr union adeg pan roedden nhw eisoes yn brwydro yn erbyn pwysau'r gaeaf.

"Bydd 'Fy Nghynllun Iechyd y Gaeaf' yn help aruthrol i sicrhau bod gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n ymweld â chartrefi pobl y gaeaf hwn yr wybodaeth angenrheidiol wrth law ar gyfer darparu'r driniaeth a'r gefnogaeth iawn, sydd wedi’u teilwra’n bersonol ar gyfer anghenion yr unigolyn ei hun.

"Bydd lleihau ymweliadau diangen ag adrannau damweiniau ac achosion brys a derbyniadau i'r ysbyty yn lleddfu'r pwysau ar ein Gwasanaeth Iechyd. O ganlyniad, bydd staff ymroddedig y Gwasanaeth Iechyd yn gallu parhau i ddarparu gofal o safon i bobl pan fyddan nhw ei angen fwyaf.

"Rydyn ni’n gwneud popeth allwn ni i gefnogi ein Gwasanaeth Iechyd a hoffem annog pawb i'n ‘Helpu ni i’ch helpu chi’ y gaeaf hwn drwy ystyried sut a phryd y maen nhw’n cael gofal."

Nodiadau i olygyddion

The NHS 111 Wales website has also been updated to provide information about the new scheme and a printable version of the refreshed template is available at NHS 111 Wales - Living and Feeling Well : My Winter Health Plan