English icon English
Trees

Rhagor o achosion o’r clefyd coed Phytophthora pluvialis wedi cael eu canfod yng Nghymru

Further cases of tree disease Phytophthora pluvialis discovered in Wales

Mae dau achos arall o'r pathogen hwn, sy’n debyg i ffwng ac y gwyddys ei fod yn effeithio ar amrywiaeth o rywogaethau coed, wedi cael eu canfod yng Nghymru.

Gall Phytophthora pluvialis effeithio ar amrywiaeth o rywogaethau coed, gan gynnwys hemlog y gorllewin, ffynidwydd Douglas a sawl rhywogaeth o binwydd – a chadarnhawyd yr achos cyntaf yng Nghymru yng Ngwynedd fis diwethaf.

Mae ail achos bellach wedi cael ei gadarnhau ar safle yng Nghrychan, Llanymddyfri, ac mae trydydd achos wedi cael ei gadarnhau i'r de o'r safle gwreiddiol yng Nghoedwig Dyfi.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal arolygon yn yr ardaloedd hyn i ddeall pa mor bell mae’r clefyd wedi lledaenu.

Mae’r clefyd yn arwain at fwrw nodwyddau – lle mae nodwyddau'n troi'n frown ac yn syrthio i’r llawr – yn ogystal ag at egin yn marw ac at friwiau ar y boncyff, y canghennau a’r gwreiddiau.

Roedd Phytophthora pluvialis eisoes wedi cael ei ganfod mewn rhannau o Loegr a'r Alban cyn i’r achosion yng Nghymru gael eu cadarnhau.

Gan nad yw'r clefyd erioed wedi cael ei ganfod yn Ewrop o'r blaen, mae ymchwil yn parhau i ddeall a fyddai’n bosibl i’r clefyd effeithio ar rywogaethau eraill.

Bydd hyn yn helpu i nodi pa fesurau rheoli sy'n briodol a'r effaith bosibl y gallai'r pathogen hwn ei chael ar y dirwedd a'r sector coedwigaeth.

Er mwyn diogelu'r wlad rhag y pathogen hwn a’i atal rhag lledaenu, bydd Llywodraeth Cymru yn pennu ardal o amgylch y safle lle y cafodd y clefyd ei ganfod gyntaf, i gyfyngu ar symud deunyddiau sy'n gallu lledaenu'r clefyd. 

Daw hysbysiad i rym ar 26 Ionawr.

Mae canllaw symptomau wedi cael ei baratoi sy’n rhoi rhagor o wybodaeth am Phytophthora pluvialis.

Anogir pobl i roi gwybod os ydyn nhw’n gweld achos o’r clefyd drwy borth ar-lein TreeAlert.