English icon English
Mudiad Meithrin - logo

Dros £190,000 i Mudiad Meithrin i helpu i feithrin siaradwyr Cymraeg newydd

Over £190,000 funding for Mudiad Meithrin will help nurture new Welsh speakers

Mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi cyhoeddi £191,000 ychwanegol i gefnogi Mudiad Meithrin, gan gynnwys cyllid i helpu i ailddechrau grwpiau Cylch Ti a Fi i rieni a phlant bach.

Mae grwpiau i rieni a phlant bach fel Cylch Ti a Fi yn chwarae rôl bwysig o ran cefnogi llesiant y bobl sy'n eu defnyddio. Bydd y cyllid yn rhoi cyfle i Mudiad Meithrin gefnogi cymaint o grwpiau â phosibl i gwrdd yn ddiogel wrth i gyfyngiadau COVID-19 gael eu llacio. Nid yw'r grwpiau wedi gallu cwrdd fel arfer o ganlyniad i gyfyngiadau COVID-19.

Mae grwpiau Cylch Ti a Fi yn rhoi cyfle i deuluoedd a phlant fwynhau chwarae gyda'i gilydd mewn amgylchedd Cymraeg anffurfiol, ni waeth beth fo eu gallu i siarad yr iaith. Maent yn cynnig ffordd i deuluoedd ddefnyddio mwy o Gymraeg gyda'u plant, ac yn helpu i feithrin siaradwyr Cymraeg newydd.

Caiff y cyllid ei ddefnyddio hefyd i gefnogi ac estyn y rhaglen Cam wrth Gam, sy'n darparu cyrsiau ym maes gofal plant i ddisgyblion blwyddyn 10–13 mewn ysgolion uwchradd. Mae Cam wrth Gam yn ategu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau rhagor o ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer y blynyddoedd cynnar drwy gyfrannu at ddatblygu staff cymwysedig i'r sector gofal plant cyfrwng Cymraeg.

Mae'r cyllid hwn ar ben y swm o dros £3miliwn y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei roi i Mudiad Meithrin i arwain y gwaith o ehangu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg ledled Cymru, yn ogystal â chynllunio'r gweithlu sydd ei angen i'w chefnogi. Nod Mudiad Meithrin yw cefnogi teuluoedd a phlant o adeg geni hyd at oedran ysgol drwy ei grwpiau a'i fentrau. Mae grwpiau Cylch Ti a Fi yn chwarae rhan bwysig wrth gynnig cyflwyniad cynnar i'r Gymraeg, yn ogystal â chyfleoedd i wneud ffrindiau a chreu rhwydweithiau o gymorth i rieni sy'n para y tu hwnt i'r grŵp ei hun.

Dywedodd Jeremy Miles:

“Drwy gyhoeddi'r cyllid hwn, caiff teuluoedd ragor o gyfleoedd i gael budd o'r gwaith rhagorol y mae Mudiad Meithrin yn ei wneud. Mae grwpiau Cylch Ti a Fi yn cynnig ffordd wych o ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y cartref, hyd yn oed os mai ond ychydig o eiriau ydyw. Mae'r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom, ni waeth beth fo ein gallu.

“Mae grwpiau fel Cylch Ti a Fi yn hollbwysig i lesiant rieni a phlant. Rwyf wrth fy modd eu bod yn ailgydio yn eu gwaith wrth i gyfyngiadau COVID-19 gael eu llacio.”

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:

"Mae Mudiad Meithrin yn gwneud gwaith gwych o ran hyrwyddo'r Gymraeg ac annog plant a'u rhieni i feithrin eu sgiliau iaith a’u defnyddio. Bydd y cyllid hwn yn sicrhau cymorth i blant ac yn rhoi mwy o gyfleoedd iddyn nhw wella eu llesiant cymdeithasol, emosiynol a chorfforol drwy grwpiau chwarae Cymraeg fel Cylch Ti a Fi.

"Rwy wrth fy modd y bydd Mudiad Meithrin yn gallu ail-ddechrau rhai o'r rhaglenni gwych y mae’n eu cynnig i deuluoedd cyn bo hir."

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Fel Mudiad sy’n credu y dylai bob plentyn yng Nghymru gael yr hawl i ddysgu a chwarae trwy gyfrwng y Gymraeg, rydym yn hynod ddiolchar am yr arian ychwanegol yma fydd yn ein galluogi i ail-agor ein Cylchoedd Ti a Fi gan nad yw’r grwpiau cymunedol yma i rieni a phlant ifanc wedi gallu cwrdd dan do fawr ddim dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Rydym hefyd yn edrych ymlaen at ehangu ein Cynllun Ysgolion Cam wrth Gam fel y gallwn gynnig cyrsiau gofal plant amrywiol trwy gyfrwng Cymraeg i ragor o ysgolion uwchradd ledled Cymru. Bydd hyn o gymorth mawr i ddatblygu a recriwtio gweithlu cymwys y mae mawr ei angen sy'n hanfodol i ehangu darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg lle bydd siaradwyr Cymraeg newydd yn ffynnu o oedran ifanc iawn.”