English icon English
pexels-lisa-fotios-2721581

Hyrwyddwyr Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol i wella gwasanaethau ledled Cymru

Maternity and Neonatal Champions to improve services across Wales.

Bydd Hyrwyddwyr Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol yn cael eu penodi i bob bwrdd iechyd yng Nghymru er mwyn gwella ansawdd gwasanaethau, mewn cynllun newydd gwerth £1.15 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Byddant yn gweithio’n agos gyda thîm newydd a fydd yn atebol i Brif Swyddog Nyrsio Cymru er mwyn gwella’r diogelwch, y profiad a’r canlyniadau i famau a babanod yng Nghymru.

Bydd y Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol yng Nghymru yn sicrhau dulliau clir a chyson o ymdrin â diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru.

Bydd y cam cyntaf yn gweld Gwelliant Cymru yn helpu Byrddau Iechyd i nodi blaenoriaethau a gwelliannau allweddol y bydd y Rhaglen yn eu cyflawni, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Bydd yr Hyrwyddwyr Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol ym mhob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn hyrwyddo’r gwelliannau hyn yn lleol.

Bydd yr Hyrwyddwyr yn adrodd yn ôl i grŵp llywio cenedlaethol er mwyn ystyried heriau cenedlaethol, gan gynnwys effaith y pandemig ar wasanaethau ac yn helpu i weithredu’r Weledigaeth 5 mlynedd ar gyfer Gofal Mamolaeth.

Sefydlwyd y Rhaglen yn dilyn y gwersi a ddysgwyd yn sgil argymhellion yr adolygiad o Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol yng Nghwm Taf Morgannwg a’r Fframwaith Ansawdd a Diogelwch a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Cydnabu’r Fframwaith yr angen am ddull trylwyr, cyson a strategol o ymdrin â diogelwch mewn gwasanaethau mamolaeth.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

 “Rwy’n falch iawn o lansio’r Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol. Bydd y Rhaglen yn creu safonau cenedlaethol er mwyn sicrhau bod yr holl fenywod beichiog, babanod a theuluoedd yn cael profiad gofal iechyd diogel o ansawdd uchel ac yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau am y gofal a gânt.

“Mae lleihau anghydraddoldebau iechyd, sicrhau bod gwasanaethau yn canolbwyntio ar y claf a chreu gweithlu cynhwysol, hyblyg, amlbroffesiynol a thalentog yn flaenoriaethau i’r llywodraeth hon. Bydd y Rhaglen hon hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer gwneud y blaenoriaethau hyn yn ganolog i holl wasanaethau’r GIG.”

Dywedodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka:

“Mae menywod a phlant yn ganolog i’r Rhaglen hon sy’n rhoi teuluoedd wrth wraidd penderfyniadau fel bod yr holl fenywod, babanod a’u teuluoedd yn cael y gofal o’r ansawdd uchaf sy’n diwallu eu hanghenion. Mae gwella gwasanaethau mamolaeth yn hanfodol i gefnogi teuluoedd a chymunedau iach a hapus y dyfodol.

“Rwy’n ddiolchgar am frwdfrydedd ac ymrwymiad pawb a gyfrannodd at ddatblygu’r Rhaglen hon a byddwn yn parhau i sicrhau bod beichiogrwydd a genedigaeth yn dal i fod yn brofiad cadarnhaol i deuluoedd.”

DIWEDD