English icon English
Money-5

Dyblu cymorth tanwydd gaeaf i helpu teuluoedd â’r argyfwng costau byw

Winter fuel support doubled to help families with cost-of-living-crisis

Bydd taliad y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn cael ei ddyblu i £200 wrth i’r argyfwng costau byw waethygu, cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt heddiw.

Mae’r taliad untro o £100, a lansiwyd ym mis Rhagfyr, bellach yn cael ei estyn i helpu aelwydydd cymwys â chostau a biliau ynni cynyddol.

Mae’n rhan o Gronfa Gymorth i Aelwydydd bwrpasol Llywodraeth Cymru, sy’n darparu £51m o gymorth wedi’i dargedu i deuluoedd a’r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas.

Wrth gyhoeddi’r cymorth ychwanegol i aelwydydd, dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:

“Ar hyd a lled Cymru mae pobl yn gweld eu biliau’n codi ac mae cyflogau’n gorfod cael eu hymestyn yn fwy nag erioed. O filiau ynni, i brisiau tanwydd a chostau nwyddau bob dydd.

“Rydym yn gwybod bod pobl yn wynebu’r penderfyniad hynod anodd o ddewis rhwng gwresogi’r tŷ neu fwyta. Rydym yng nghanol argyfwng costau byw, sy’n gwaethygu.

“Roedd ein Cronfa Gymorth i Aelwydydd gwerth £51m yn targedu cymorth i deuluoedd ledled Cymru. Rydym yn gwybod bod y cynlluniau hyn yn gweithio ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl o aelwydydd incwm isel.

“Dyna pam rwy’n falch o gyhoeddi ein bod yn estyn y cymorth i aelwydydd drwy ddyblu taliad y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf. Rydym yn cynyddu’r taliad arian parod gwerth £100 i £200 a bydd y taliad hwn ar gael i ymgeiswyr newydd a bydd y swm ychwanegol yn cael ei dalu i’r rhai sydd eisoes wedi gwneud cais.”

Bydd awdurdodau lleol yn prosesu ceisiadau newydd gan aelwydydd cymwys. I fod yn gymwys am y taliad, rhaid i un aelod o’r aelwyd fod yn cael budd-daliadau lles penodol. Mae rhagor o fanylion ar wefannau awdurdodau lleol, a fydd yn cael eu diweddaru i adlewyrchu’r taliad uwch.

Mae’r Cynghorau wedi cysylltu â’r bobl y maent yn credu sy’n gymwys. Os nad ydych chi wedi gwneud cais eto, gellir cyflwyno ceisiadau hyd at 28 Chwefror.

Nid oes angen i’r bobl sydd eisoes wedi cael taliad o £100 o dan y cynllun wneud dim, byddant yn cael taliad arall o £100 yn yr wythnosau nesaf.

Ychwanegodd Ms Hutt:

“Rydym yn benderfynol o wneud popeth a allwn i helpu ein pobl gyda’r biliau sydd ganddynt, a bydd hyn yn helpu i wneud hynny.

“Hoffwn ddiolch i’n hawdurdodau lleol am brosesu’r taliadau hyn yn gyflym. Mae pawb yn gwybod eu bod wedi bod dan bwysau aruthrol yn ystod y pandemig. Er hynny, maent wedi llwyddo i ddarparu ar gyfer ein cymunedau dro ar ôl tro.

“Bydd y cynnydd hwn o £100 yn ychwanegol yn helpu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas i dalu eu biliau tanwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn ac rwy’n benderfynol o wneud popeth a allwn i barhau i gefnogi pobl Cymru drwy’r argyfwng costau byw.”