Skip to main content

Rugby fans reminded to plan ahead and wear a face covering

10 Chw 2022

Mae cefnogwyr rygbi sy'n teithio i Gaerdydd ar gyfer gêm Cymru yn erbyn yr Alban yn cael eu hannog i gynllunio eu teithiau'n ofalus ac i gofio gwisgo gorchudd wyneb.

Bydd gwasanaethau rheilffordd yn brysur iawn drwy gydol ddydd Sadwrn (12 Chwefror) gan ddisgwyl bron i 75,000 o gefnogwyr i Stadiwm Principality ar gyfer gêm gartref gyntaf Cymru yn eu hymgyrch Chwe Gwlad.

Er bod Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gweithredu’r amserlen frys a gyhoeddwyd y mis diwethaf, bydd yn gweithredu cymaint o wasanaethau ychwanegol â phosibl yn ôl ac ymlaen o Gaerdydd ac yn darparu trafnidiaeth ffordd, lle bo modd.

Mae’r gwelliannau’n cynnwys cau maes parcio cefn Gorsaf Ganolog Caerdydd gan ei gwneud yn haws i fysiau gael mynediad a gwella’r system giwio ar gyfer gwasanaethau’r Cymoedd.    Hefyd, bydd Cyngor Caerdydd yn cau Heol Penarth ar ôl y gêm fel bod y llwybr o dan y bont reilffordd yn ddiogel i bobl gerdded ar ei hyd.  Mae grisiau gorsaf Caerdydd Canolog wedi cael eu gwella sy’n eu gwneud yn fwy diogel ac mae hefyd cynlluniau i redeg rhagor o drenau er mwyn cynyddu capasiti.

Dylai cwsmeriaid wirio amserlenni yn ofalus cyn teithio a gadael digon o amser ar gyfer eu taith cyn ac ar ôl y gêm hefyd.  Bydd system giwio ar ôl y digwyddiad ar waith (llun ynghlwm) gyda lleoliadau newydd ar gyfer ciwiau ar gyfer y gwasanaethau i Gasnewydd a Chaerloyw.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu miloedd lawer o gefnogwyr rygbi sy’n teithio i ac o Gaerdydd ar ein gwasanaethau ddydd Sadwrn.

“Mae’n bwysig cofio ein bod ni’n dal mewn pandemig sy’n parhau i effeithio ar wasanaethau rheilffordd ledled y DU.  Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu cymaint o gapasiti â phosibl i gael pobl i mewn i'r ddinas ac adref eto.  Ond, mae'n gwbl hanfodol bod pawb yn cynllunio ymlaen llaw ac yn gwirio'r wybodaeth deithio ddiweddaraf cyn dechrau ar eu taith.  Mae rhagolygon y tywydd yn argoeli prynhawn gwlyb a gwyntog, felly, dylai cwsmeriaid wisgo dillad priodol a gwirio am unrhyw amhariad ar y rhwydwaith y gall y tywydd ei achosi.

“Rydyn ni’n atgoffa cwsmeriaid i wisgo gorchudd wyneb trwy gydol eu taith, oni bai eu bod wedi'u heithrio.  Dyma’r gyfraith o hyd yng Nghymru.”

Cynghorir unrhyw un sy’n teithio i Gaerdydd o orllewin neu ddwyrain Cymru ar hyd y brif reilffordd i ddefnyddio gwasanaethau rhyng-ddinas mwy o faint lle bo modd.  Hefyd, anogir y rhai sy’n teithio pellteroedd byrrach i gerdded, beicio neu ddefnyddio gwasanaethau bws lleol os gallan nhw.

Mae gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, oni bai bod pobl wedi’i heithrio.  Bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain i ymgysylltu â chefnogwyr sy’n teithio i’r brifddinas ac oddi yno.

Dywedodd Arolygydd BTP Richard Powell: “Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid trwy gydol y twrnamaint i helpu'r miloedd sy'n defnyddio'r rheilffordd i deithio yn ôl ac ymlaen i'r digwyddiadau yn ddiogel.

“Bydd ein presenoldeb yn fwy amlwg mewn lleoliadau allweddol, a bydd swyddogion yn atgoffa teithwyr bod yn rhaid iddyn nhw wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, oni bai eu bod wedi’i heithrio.

“Fel gyda phob digwyddiad mawr, mae'n bwysig iawn bod pawb sy'n defnyddio'r rheilffordd yn cadw'n effro, bod yn wyliadwrus.  Mae'n bwysig riportio unrhyw beth sy’n ymddangos yn amheus i staff yr orsaf, swyddog BTP, neu gellir anfon neges destun i 61016 gyda manylion."