English icon English
WG positive 40mm-2

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r data diweddaraf ar berfformiad GIG Cymru

Welsh Government response to publication of latest NHS Wales performance data

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad ar y data diweddaraf ar berfformiad GIG Cymru a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 20 Ionawr).

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae ein Gwasanaeth Iechyd wrthi’n delio â gaeaf anodd dros ben ac, ar yr un pryd, yn wynebu heriau llethol yr amrywiolyn Omicron, pwysau difrifol y gaeaf ac absenoldebau staff yn sgil y pandemig.

“Mae’r data’n dangos y cynnydd a oedd yn dechrau cael ei wneud mewn gofal wedi’i gynllunio ym mis Tachwedd, cyn i effeithiau’r don Omicron gael eu teimlo o ddifrif gan roi cryn bwysau ar y gwasanaeth iechyd yn ystod y gaeaf. Rydym yn disgwyl i ddata’r mis nesaf, a fydd yn cynnwys mis Rhagfyr, adlewyrchu hyn.

“Mae gweithwyr gofal iechyd yn haeddu clod am eu hymroddiad i gynnal gofal o ansawdd uchel i gannoedd o filoedd o gleifion bob mis, yn ogystal â chefnogi lefelau rhagorol o bigiadau atgyfnerthu yn y cam diweddaraf o’n rhaglen frechu Covid-19 dros y ddau fis diwethaf.

“Er gwaethaf pwysau parhaus i ddarparu gofal wedi’i gynllunio ac er bod rhai byrddau iechyd yn gorfod adolygu gofal o’r fath, mae lefelau gweithgarwch a diagnosis o ganser ill dau wedi cynyddu yn y data diweddaraf. O ran nifer y cleifion sydd wedi cael diagnosis newydd o ganser ac a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, cynyddodd y nifer hwn i’r lefel uchaf ers i ddata cymaradwy ddechrau cael eu casglu ym mis Mehefin 2019. Ymhellach, cynyddodd nifer y cleifion a gafodd wybod nad oes ganddynt ganser, o gymharu â’r mis blaenorol.

“Er bod nifer y bobl sy’n aros i ddechrau triniaeth wedi cynyddu i dros 682,000 a’i fod yn parhau i gynyddu, y cynnydd o 0.4% ym mis Tachwedd yw’r cynnydd lleiaf ers dechrau’r pandemig yn y cyfanswm sy’n aros.

“Ym mis Tachwedd, caewyd dros 78,000 o lwybrau cleifion, y nifer mwyaf mewn bron i ddwy flynedd.

“Mae cynnydd hefyd yn cael ei wneud o ran diagnosteg. Er bod nifer y bobl sy’n aros am brofion diagnostig yn parhau’n uwch na chyn dechrau’r pandemig a’i fod wedi cynyddu ychydig ym mis Tachwedd 2021, mae’r nifer sy’n aros yn hwy na’r amser targed wedi lleihau. Daw hyn wedi i fuddsoddi sylweddol mewn cyfarpar diagnostig gael ei gyhoeddi y llynedd, gan gynnwys dros £51m mewn offer diagnostig newydd, £25m mewn offer delweddu newydd a £25m mewn pedwar sganiwr Tomograffeg Gyfrifiadurol (CT) Tomograffeg Allyriadau Positron (PET) newydd.

“Rydym yn gwneud popeth y gallwn ni i gefnogi ein gwasanaethau gofal brys ac argyfwng a byddem yn annog pawb i’n Helpu Ni i’ch Helpu Chi y gaeaf hwn drwy ystyried sut a phryd rydych yn cael at ofal iechyd.

“Yn nes ymlaen eleni, bydd y cynllun ‘Fy Iechyd y Gaeaf Hwn’ yn nodi pum mlynedd ers ei sefydlu. Mae’r cynllun hwn yn cynnig ffordd hawdd i bobl â chyflyrau corfforol neu feddyliol hirdymor rannu gwybodaeth â gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n dod i’w gweld fel y byddant yn cael y gofal cywir ar gyfer eu hamgylchiadau personol. Yn aml, gall hyn osgoi taith ddiangen i’r ysbyty.

“Byddwn yn dosbarthu 20,000 o gynlluniau ychwanegol y gaeaf hwn. Bydd y rhain ar gael o fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru a bydd modd eu lawrlwytho o wefan GIG 111 Cymru.

“Gall eich fferyllfa leol a gwasanaeth ar-lein 111 roi cyngor ar gyfer salwch ac anhwylderau ysgafn.”

Nodiadau i olygyddion

The latest data can be found here

https://gov.wales/statistics-and-research