English icon English
Trees

£8.1bn i gefnogi seilwaith gwyrdd

£8.1bn to support green infrastructure

Mae'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, wedi dweud mai’r "uchelgais cyffredinol" yn Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru ar ei newydd wedd yw mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.

Mae'r strategaeth yn cael ei hategu gan fuddsoddiad o fwy na £8.1 biliwn dros y tair blynedd nesaf.

Daw’r datganiad hwn cyn dadl ar y gyllideb ddrafft yn y Senedd yn ddiweddarach heddiw.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

“Gosododd ein cyllideb y sylfeini ar gyfer cryfhau gwasanaethau cyhoeddus, mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur, a helpu i greu economi

ddi-garbon. Bydd buddsoddi yn y seilwaith cywir, yn y mannau cywir, yn hanfodol er mwyn taro’r nod.

"Bydd y buddsoddiad yn wahanol o’r naill sector i’r llall ac o’r naill rhaglen i’r llall, ond byddwn ni’n ceisio sicrhau bod yr holl fuddsoddiad yn y dyfodol yn chwarae’i ran o safbwynt helpu Cymru i gyrraedd sero net. Bydd canlyniadau amgylcheddol yn cael eu hystyried ym mhob maes gwariant, hyd yn oed yn y meysydd hynny lle gallai’r ffocws sylfaenol fod yn wahanol.

“Nod cyffredinol ein buddsoddiad fydd mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur. Bydd yn sicrhau bod gennym y seilwaith yn ei le i helpu i greu’r Gymru rydyn ni am ei throsglwyddo i genedlaethau'r dyfodol – Cymru gryfach, decach a gwyrddach.”

Rhwng ’nawr a 2025, bydd £770 miliwn ar gael i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus − gyda buddsoddiad o £585 miliwn yn y rheilffyrdd a buddsoddiad o £185 miliwn mewn teithio ar fysiau. Bydd y buddsoddiad hwn yn cael ei ddefnyddio i ddarparu cerbydau mwy newydd a gwyrddach, i barhau i ddatblygu Llinellau Craidd y Cymoedd, ac i gefnogi trafnidiaeth integredig drwy gynlluniau Metro.

Bydd y strategaeth hefyd yn rhoi cymorth i greu Coedwig Genedlaethol, ac yn gwella mynediad i dirweddau a hamdden awyr agored drwy fuddsoddi mewn tirweddau dynodedig a datblygu Llwybr Arfordir Cymru, Llwybrau Cenedlaethol a’r rhwydwaith Llwybrau Tramwy Cyhoeddus. Bydd cyfanswm o dros £153 miliwn yn cael ei wario i gefnogi natur ac amgylchedd Cymru.

Rydym hefyd yn gwarchod rhag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd drwy fuddsoddi mwy na £100 miliwn ar amddiffynfeydd rhag llifogydd. Bydd mwy na 45,000 o gartrefi’n elwa ar fesurau ychwanegol i amddiffyn rhag llifogydd yn ystod tymor y Senedd hon, a bydd y Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol yn lleihau’r risg i fwy na 17,400 o gartrefi o amgylch arfordir Cymru.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:

“Drwy fuddsoddi mewn seilwaith, byddwn ni’n agor mathau mwy gwyrdd o drafnidiaeth i ragor o bobl, gan roi mwy o ddewis o ran sut byddwn ni i gyd yn teithio. Ac mae’n seilwaith yn fwy na dim ond ein hamgylcheddau adeiledig; rydyn ni’n neilltuo swm sylweddol o gyllid i wella mannau naturiol Cymru, gan gynnwys gwneud hynny drwy'r Goedwig Genedlaethol. Rydyn ni am hyrwyddo cysylltiad pobl â natur a chefnogi’u lles drwy’r cysylltiad hwnnw.

"Mae hwn yn gam arall i'r cyfeiriad cywir, ac rydyn ni’n gwybod bod angen inni wneud mwy yn ystod y deng mlynedd nesaf nag yr ydym wedi'i wneud yn y deng mlynedd ar hugain diwethaf os ydyn ni am gyrraedd ein targed sero net erbyn 2050."