English icon English

Cymorth i fyfyrwyr wrth gwblhau cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ‘hanfodol’

Support for students to complete ‘vital’ Health and Social Care courses

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid newydd o £1.8 miliwn i gefnogi myfyrwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae llai o fyfyrwyr wedi cofrestru ar raglenni Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn colegau, o bosibl o ganlyniad i'r effaith negyddol y mae COVID-19 wedi ei chael ar y trefniadau ar gyfer darparu'r cwrs hwn.

Bydd y cyllid yn helpu myfyrwyr i gwblhau eu hastudiaethau ac yn annog darpar fyfyrwyr i ymuno â'r sector, yn ogystal â helpu colegau i hyrwyddo cyrsiau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn denu rhagor o fyfyrwyr, gan helpu i ateb y galw uwch am staff cymwysedig. Gellid hefyd ddefnyddio'r cyllid i helpu i dalu costau gofal plant, neu i gynnig cynlluniau cyfeillio staff/mentora i gefnogi dysgwyr wrth ddatblygu eu gyrfa.

Er y gellir defnyddio Cronfa Ariannol Wrth Gefn y coleg i dalu costau cefnogi myfyrwyr mewn rhai achosion, dylai'r cyllid ychwanegol hwn sicrhau dull gweithredu cyson mewn rhaglenni Iechyd a Gofal Cymdeithasol a rhoi cyfle i rai colegau ohirio gwariant eu Cronfa Ariannol Wrth Gefn tan y Flwyddyn Ariannol nesaf.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at yr hyn a oedd eisoes yn hysbys inni – sef bod staff medrus, hyfforddedig yn hanfodol i barhad gwasanaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol, gwasanaethau y mae pobl ledled Cymru yn dibynnu arnynt bob dydd.

“O ystyried y pwysau ar niferoedd staff yn ein sector iechyd a gofal cymdeithasol, mae'n hollbwysig ein bod yn cymryd camau i ddenu rhagor o fyfyrwyr ac i'w cefnogi wrth gwblhau eu cyrsiau.”

Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr Colegau Cymru:

“Mae'r pandemig wedi dangos yn glir pa mor bwysig yw'r sector iechyd a gofal cymdeithasol.

“Bydd y cyllid ychwanegol yn helpu i sicrhau bod rhagor o ddysgwyr yn cael eu hannog i ymgymryd â rolau gwerth chweil, gyda'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i helpu eu preswylwyr a'u cleientiaid, yn ogystal â chwblhau eu hastudiaethau a symud ymlaen i yrfaoedd gwerthfawr sy'n galw am sgiliau. Mae'r cymorth ariannol hwn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sgiliau a llesiant, a dylid ei groesawu'n fawr.”

Nodiadau i olygyddion

Nifer y dysgwyr sy'n cofrestru ar raglenni Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn colegau addysg bellach yng Nghymru

Blwyddyn

Nifer y dysgwyr

2018/19

3,575

2019/20

3,680

2020/21

4,046

2021/22 (hyd yma)

3,723

 

DS: Nid ystadegau swyddogol Llywodraeth Cymru, ond amcangyfrif sy'n seiliedig ar ddata rheoli sy'n deillio o ymatebion colegau.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y ddogfen Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru – COVID-19: Edrych tua'r dyfodol fis Mawrth diwethaf, sy'n disgrifio effaith COVID-19 ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.