English icon English

Busnes Cymru yn rhoi hwb i economi Cymru gwerth £790 miliwn y flwyddyn erbyn canol 2021

Business Wales boost to Welsh economy worth £790m a year by mid 2021

Fe wnaeth cefnogaeth gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru roi hwb o tua £790 miliwn y flwyddyn i economi Cymru erbyn canol 2021, yn ôl ymchwil newydd a ddadorchuddiwyd gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw.

Mae dros 25,000 o swyddi wedi'u creu diolch i gymorth gan y gwasanaeth ers 2015, gyda Busnes Cymru hefyd yn helpu busnesau i gynhyrchu cyfanswm o £469 miliwn mewn buddsoddiad dros yr un cyfnod. Mae hyn wedi arwain at lefel trosiant gyfunol o fwy na £13bn.

Dadansoddwyd perfformiad y gwasanaeth gan Ysgol Fusnes Caerdydd mewn adroddiad newydd.

Archwiliodd yr adroddiad effaith dau faes cymorth penodol: Rhaglen Graidd a Thwf Busnes Cymru, sy'n rhoi cymorth i unigolion sy'n ystyried dechrau menter newydd yn ogystal â chwmnïau sefydledig sydd â dyheadau twf; a'r Rhaglen Twf Cyflym (AGP), gwasanaeth wedi'i dargedu wedi'i anelu at fusnesau sydd â'r awydd a'r potensial i ddatblygu trosiant, creu swyddi ac allforio'n gyflym.

Canfu'r adroddiad y byddai'r gyflogaeth a'r gweithgarwch ychwanegol a gynhyrchir gan y rhaglen Craidd a Thwf yn cyfrannu tua £380m mewn Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC) i economi Cymru bob blwyddyn erbyn canol 2021, gyda’r Rhaglen Twf Cyflym yn ychwanegu GYC pellach o £410m y flwyddyn.

Mae Busnes Cymru yn cynnwys tîm o gynghorwyr profiadol iawn, sy'n cynnig gwybodaeth ymarferol, gweminarau arbenigol, cyfarfodydd cynghori rhithwir personol a chymorth dros y ffôn, yn ogystal â mynediad at fentoriaid a chymorth arbenigol pellach.

Mae ei ganllawiau wedi helpu llu o fusnesau i lywio ymadawiad y DU â'r UE a'r pandemig hynod heriol. Yn gynharach eleni, dangosodd ffigurau fod mwy na 750 o entrepreneuriaid wedi dechrau busnes neu wedi dod yn hunangyflogedig yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus gyda chymorth Busnes Cymru.

Wrth groesawu canfyddiadau'r adroddiad, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae Busnes Cymru yn wasanaeth o'r radd flaenaf sy'n darparu cyngor ac arweiniad amhrisiadwy fel rhan o amgylchedd busnes cefnogol.

"Mae'r gwerth y mae'n ei ychwanegu at economi Cymru yn ystod y cyfnod masnachu hynod anodd yn dyst i'r tîm gwirioneddol anhygoel o gynghorwyr sy'n rhoi cymorth uniongyrchol i'n busnesau i'w helpu i dyfu a ffynnu, gan helpu i greu swyddi da mewn cymunedau ledled Cymru. Hoffwn estyn fy niolch i bob un ohonynt.

"Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau beiddgar i adeiladu economi gryfach, decach a gwyrddach yng Nghymru, ac mae Busnes Cymru yn rhan allweddol o'n dull rhagweithiol. Mae hyn yn cynnwys helpu busnesau i greu swyddi newydd, dod o hyd i farchnadoedd allforio newydd a buddsoddi yn niwydiant cynaliadwy yfory, tra'n meithrin doniau a chreadigrwydd entrepreneuriaid i ddarparu mwy o fusnesau newydd."

I gysylltu â Busnes Cymru a gweld sut y gall ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i ddechrau, cynnal a thyfu eich busnes ewch i wefan Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 603000.