- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
25 Ion 2022
Mae trigolion sy’n byw yng Nghymoedd y Rhondda yn elwa o ofod cymunedol newydd, diolch i bartneriaeth newydd gyda Trafnidiaeth Cymru.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cydweithio ag Alun Griffiths Ltd a Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian yng nghanol y Cymoedd i drawsnewid ardal segur yn fan gwyrdd er mwyn tyfu cynnyrch a gwella bioamrywiaeth.
Mae wedi bod yn bosibl diolch i gyllid gan y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae'n rhan o brosiect mwy cronfa Llwybrau Gwyrdd gwerth £100,000 i wella bioamrywiaeth mewn 22 o orsafoedd ac mewn 5 ardal gymunedol.
Dywedodd Alana Smith, Swyddog Datblygu Cynaliadwy yn Trafnidiaeth Cymru: “Rydyn ni’n defnyddio cyllid Llwybrau Gwyrdd i geisio cysylltu pobl â’r byd natur ar garreg eu drws, mewn cymunedau.
“Fe benderfynon ni ymgeisio am yr arian hwn er mwyn ceisio gwella natur a bioamrywiaeth mewn cymunedau ger ein gorsafoedd trenau.
“Rydym wrth ein bodd gyda llwyddiant y prosiect gydag Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian.”
Mae ymddiriedolaeth Pentref Cambrian eisoes yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau awyr agored, digwyddiadau lleol a gweithdai yn ei chanolfan drws nesaf i lyn yn Nhonypandy ac roedd yn bwriadu datblygu ei safle ymhellach er budd y gymuned.
Dywedodd Gavin Mcauley, Cydlynydd Datblygu Cymunedol yn Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian: “Yn ystod y cyfyngiadau symud, roedd y llecyn yn gynfas gwag, agored ac roeddem am ddatblygu’r cyfleuster i ganiatáu i’r gymuned gael lle i'w hunain.
“Fy syniad oedd y byddai pobl yn gallu tyfu a choginio eu cynnyrch eu hunain, ac yna, eistedd i lawr a bwyta gyda’i gilydd fel cymuned.
“Fe wnaethon ni drafod y prosiect gyda Trafnidiaeth Cymru a’n bwriad i ddatblygu’r syniad o blannu planhigion a chreu rhandiroedd.”
Ychwanegodd Jeannie Jones, gwirfoddolwr gydag Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian: “Mae’n gyffrous iawn ac rydym yn ffodus oherwydd mae glan y llyn yn ardal hynod o brydferth.
“Yna cawsom y cyfleuster hwn ar garreg ein drws i'w wella. Gall y prosiectau hyn fod o fudd i gymaint o bobl. Gallan nhw fynd a dod fel y mynnant; mae'r ysbryd cymunedol yn rhagorol.
“Mae'n deimlad braf dod ynghyd a helpu ein gilydd. Rydyn ni'n ei fwynhau'n fawr ac yn teimlo'n ffodus ei fod ar gael i ni.”
I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud mewn cymunedau, ewch i https://trc.cymru/gwybodaeth/cymunedau