English icon English

Staff amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru yn cael cynnig hyfforddiant LGBTQ+

Museum, Archive, and Library staff in Wales offered LGBTQ+ training

Mae menter newydd yn cael ei lansio yng Nghymru i helpu amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol i arddangos, rhannu a dathlu hanes a diwylliant LGBTQ+ lleol yn eu casgliadau, yn ôl cyhoeddiad gan weinidogion Llywodraeth Cymru heddiw.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cyfres o sesiynau hyfforddi Iaith a Hanes LGBTQ+ i gefnogi sefydliadau yng Nghymru i fod yn fwy cynhwysol a chynrychioli treftadaeth a llenyddiaeth LGBTQ+ yn well yn eu casgliadau

Mae'r fenter newydd yn cefnogi Cynllun Gweithredu LGBTQ+ Llywodraeth Cymru sy'n nodi cynlluniau i:

• fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a brofir gan gymunedau LGBTQ+
• herio gwahaniaethu
• creu cymdeithas lle mae pobl LGBTQ+ yn ddiogel i fyw a charu

Mae'r Hanesydd a'r awdur blaenllaw o Gymru Norena Shopland a’r Addysgwr Tegwch a sylfaenydd Pride in Education, Laila El-Metoui wedi dylunio ac yn darparu pum sesiwn pwrpasol rhyngweithiol i roi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i staff a fydd yn golygu bod treftadaeth LGBTQ+ sydd wedi'i chuddio neu ei datgelu'n aml yn dod yn fwy amlwg.

Bydd yr hyfforddiant yn darparu pwyntiau dysgu effeithiol ac offer ymarferol i alluogi staff i symud ymlaen gyda rhaglen gwbl gynhwysol a gwirioneddol gynrychioliadol.

Meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:

"Rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ein hamgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau lleol yn gweithio gyda'n cymunedau LGBTQ+ yng Nghymru i arddangos, rhannu a dathlu eu hanes a'u straeon.

"Mae rhai enghreifftiau gwych o'r sefydliadau hyn yn gweithio gyda chymunedau LGBTQ+ – fel Amgueddfa Llandudno ac Archifau Morgannwg - ond rydym yn awyddus i sicrhau bod lleoliadau lleol ledled y wlad yn fwy cynrychioliadol o'r gymuned yn eu casgliadau, eu hadnoddau, eu digwyddiadau a'u rhaglenni arddangos. Y fenter newydd hon rydym yn ei chyhoeddi heddiw yw dechrau'r broses honno."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn:

"Mae'r gymdeithas sydd gennym heddiw a'r cynnydd rydym wedi'i wneud i gyd wedi'i hadeiladu ar obaith a phenderfyniad cynifer a aeth o’n blaenau. Mae hanes LGBTQ+ Cymru wedi cyfrannu cymaint at ein straeon fel cenedl ac rwyf mor falch y bydd y straeon hyn yn cael y cyfle newydd hwn i gael eu hadrodd.

"Rydym yn gweithio i wneud Cymru'r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop tuag at y gymuned LGBTQ+. Mae'r cyhoeddiad hwn heddiw yn gam arall tuag at gyflawni hynny."

Dywedodd Norena Shopland:

"Dros y deng mlynedd diwethaf mae arddangos cyfeiriadedd rhywiol a hanes hunaniaeth rhywedd (y cyfeirir ato'n aml fel hanes LGBTQ+) wedi cynyddu'n fawr. Fodd bynnag, mae'r cynnydd hwn yn tueddu i gael ei sbarduno gan nifer fach o unigolion a sefydliadau. Diffyg ymgyfarwyddo â'r pwnc; ychydig o ddealltwriaeth o ddefnydd, cymhwysiad a chydnabyddiaeth o iaith hanesyddol; ofn achosi tramgwydd; a phobl LGBTQ+ yn anaml yn ymweld ag amgueddfeydd neu archifau lleol, yw rhai o'r prif resymau sy'n achosi anawsterau wrth ymchwilio, cydnabod a hyrwyddo hanes LGBTQ+."

Dywedodd Laila El-Metoui:

"Mae gormod o sefydliadau'n dal i fyw yng nghysgod Adran 28 ac mae o'r pwys mwyaf bod treftadaeth LGBTIQA+ yn cael ei harddangos a'i dathlu, gan wybod bod ein gorffennol yn ein helpu i ddeall ein presennol ac yn llywio ein dyfodol. Ni allwch fod yr hyn na allwch ei weld, mae'n bryd dod â straeon cudd i'r golau. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am fod yn sbardun y tu ôl i gynrychiolaeth Treftadaeth Cwiar."