- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
12 Rhag 2021
Am y tro cyntaf ers bron i 60 mlynedd, bydd teithwyr yn gallu elwa ar wasanaethau trên uniongyrchol rhwng Crosskeys a Chasnewydd fel rhan o ddiweddariad Rhagfyr 2021 o amserlen Trafnidiaeth Cymru (TrC) a datblygu Metro De Cymru.
Yn flaenorol, roedd teithwyr oedd yn dymuno teithio o Crosskeys i Gasnewydd yn gorfod teithio ar wasanaeth uniongyrchol i Gaerdydd ac yna newid trên er mwyn gallu parhau i Gasnewydd. Fodd bynnag, o 12fed Rhagfyr eleni, bydd y gwasanaeth newydd bob awr hwn rhwng Crosskeys a Chasnewydd yn rhedeg tan 21:20, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, a bydd y gwasanaeth yn rhedeg bob dwy awr ar ddydd Sul. Bydd gwasanaethau hefyd yn galw yng ngorsafoedd Risga a Phontymister, Tŷ Du a Pye Corner.
Mae ailgyflwyno'r gwasanaeth, a ddaeth i ben ym mis Ebrill 1962 ar ôl cau Rheilffordd Glyn Ebwy i deithwyr, wedi bod yn bosibl gyda buddsoddiad o £1.2 miliwn i uwchraddio Llinell Glyn Ebwy, a gyflawnwyd diolch i gydweithio rhwng TrC a Network Rail.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth: “Mae'n wych gweld hyn ar waith o'r diwedd yn dilyn ymgyrch hir gan bobl leol. Rydym yn awyddus i ymestyn y gwasanaeth i Glyn Ebwy cyn gynted â phosibl fel rhan o uwchraddio'r system drafnidiaeth gyhoeddus ledled y rhanbarth.”
Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad TrC: “Mae adfer gwasanaethau uniongyrchol rhwng Glyn Ebwy isaf a Chasnewydd wedi bod yn uchelgais bwysig i ni ac rydym yn falch iawn y bydd teithwyr nawr yn elwa o’r gwaith caled a wnaed i wneud i hyn yn bosibl. Mae hefyd yn gam pwysig yn natblygiad Metro De Cymru, wrth i gynlluniau ddatblygu i wella Llinell Glyn Ebwy ymhellach.”
Ychwanegodd Bill Kelly, cyfarwyddwr llwybr Network Rail Cymru a'r Gororau: “Roedd ailagor llinell Glyn Ebwy yn sylfaenol i sbarduno dadeni’r rheilffordd yng Nghymru felly mae’n wych gallu adeiladu ar y llwyddiant hwnnw gyda’r gwasanaeth uniongyrchol newydd hwn yn ôl ac ymlaen o Gasnewydd.
“Rydyn ni'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a phartneriaid eraill i ddarparu gwasanaethau amlach ar reilffordd Glyn Ebwy yn y dyfodol ac mae hon yn garreg filltir hynod bwysig tuag at hynny.
"Bydd gwella gwasanaethau hefyd yn effeithio ar amlder trenau sy'n teithio dros dair croesfan rheilffordd: Croesfannau rheilffordd Rhisga, Tŷ Melin (Tymelin) a Kings Head. Cynghorir defnyddwyr y croesfannau hyn i wirio'r amserlen newydd cyn defnyddio'r croesfannau er eu diogelwch eu hunain."
Nodiadau i olygyddion
- Mae cynlluniau ychwanegol ar waith i gynnal gwaith uwchraddio pellach i Linell Glyn Ebwy, i gyflawni dyhead Llywodraeth Cymru i ymestyn gwasanaethau Casnewydd i Crosskeys i Dref Glyn Ebwy ac ailagor y llinell gangen i Abertyleri.
- Bydd gwasanaethau rhwng Glyn Ebwy, Caerdydd a Chasnewydd yn rhan o Metro De Cymru. Bydd y Metro yn gwella cysylltedd ledled De Cymru yn sylweddol ac yn darparu mynediad at swyddi, hamddena a chyfleoedd eraill i bobl Cymru, trwy uno llwybrau rheilffordd, bysiau a theithio llesol.
- Mae'r gwaith i ailgyflwyno'r llwybr hwn wedi'i ddatblygu ochr yn ochr ag uwchraddiad gwerth tri chwarter biliwn o bunnoedd TrC o Linellau Craidd y Cymoedd ar draws cymoedd De Cymru.