English icon English

Pob oedolyn cymwys wedi cael cynnig brechlyn atgyfnerthu Covid-19 yng Nghymru

All eligible adults offered booster Covid-19 vaccination in Wales

Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru wedi cadarnhau heddiw (31 Rhagfyr) eu bod wedi cynnig apwyntiad brechlyn atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys.

Mae cynnig wedi’i wneud i unrhyw un sy'n gymwys drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys llythyrau, negeseuon testun, archebu ar-lein ac opsiynau galw heibio.

Mae mwy nag 1.5 miliwn o frechlynnau atgyfnerthu wedi'u rhoi hyd yma, gydag 81 y cant o bobl dros 50 oed wedi cael y dos atgyfnerthu.

Mae tua 80 y cant o bobl 12 oed a hŷn yn gymwys i gael y pigiad atgyfnerthu ar hyn o bryd. O'r rheini, mae 71 y cant eisoes wedi cael eu pigiad. Bydd byrddau iechyd yn cysylltu â phawb na allent wneud eu hapwyntiadau mis yma a gofyn iddynt aildrefnu ym mis Ionawr.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

“Mae’r ymateb gan y cyhoedd wedi bod yn rhagorol ac rydym eisiau diolch i bawb a gadwodd eu hapwyntiad ac a dderbyniodd y cynnig i gael eu brechlyn atgyfnerthu.

“Diolch o galon hefyd i’n timau yn GIG Cymru, eu sefydliadau partner a’r holl wirfoddolwyr sydd wedi gweithio’n ddiflino drwy amser mor brysur i gyflawni’r dasg aruthrol hon.

“Dros gyfnod y Nadolig roeddem yn falch o weld cynnydd yn y bobl yn dod ymlaen i dderbyn eu dos cyntaf a’u hail ddos ​​o'r brechlyn. Diolch i bawb sy'n dal i ddod ymlaen i gael eu brechu.

“Os nad ydych chi wedi manteisio ar y cynnig eto, gwnewch adduned blwyddyn newydd i gael eich brechlyn atgyfnerthu. Mae pob brechlyn sy’n cael ei roi yn helpu i Gadw Cymru yn Ddiogel.”

Ni fydd neb yn cael ei adael ar ôl a gall unrhyw un sydd eisiau derbyn y cynnig o ddos cyntaf neu ail ddos wneud hynny o hyd. Mae byrddau iechyd hefyd wrthi'n mynd ar ôl unrhyw un sydd wedi methu derbyn y cynnig o frechlyn atgyfnerthu hyd yma.

Os yw wedi bod yn dri mis ers eich ail ddos ​​ac nad ydych yn credu eich bod wedi derbyn llythyr, galwad ffôn neu neges destun ar gyfer apwyntiad brechlyn atgyfnerthu, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol. Bydd ganddynt fanylion ar eu gwefan hefyd am beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi cael eich methu.