English icon English

£18 miliwn i gryfhau’r cymorth i blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

£18 million to strengthen support for children and young people with Additional Learning Needs

Mae cyllid newydd i gefnogi plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) wedi’i gyhoeddi gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

Bydd £18m ar gael i roi rhagor o gymorth i blant a phobl ifanc ag ADY y mae’r pandemig wedi effeithio arnynt. Bydd hefyd yn helpu lleoliadau addysgol wrth i ddysgwyr ddechrau symud i’r system ADY newydd y mis hwn.

Bydd £10m o’r cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi dysgwyr ag ADY y mae’r pandemig wedi effeithio arnynt, gan helpu â’u llesiant. Yn ystod y pandemig, mae llawer o blant a phobl ifanc anabl, gan gynnwys dysgwyr ag ADY, yn parhau i deimlo effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl ac yn parhau i’w chael yn anodd cael mynediad at addysg.

Bydd y cyllid yn ychwanegu at y cymorth presennol ar gyfer dysgwyr ag ADY, fel cymorth dysgu dwys a therapi lleferydd ac iaith. Gall y cyllid hefyd gael ei ddefnyddio i ddarparu rhagor o adnoddau i dargedu effeithiau’r pandemig, fel cymorth iechyd meddwl a chymorth wedi’i deilwra i helpu â phresenoldeb.

Bydd £8m yn cael ei ddyrannu i ysgolion, meithrinfeydd, awdurdodau lleol ac Unedau Cyfeirio Disgyblion er mwyn symud dysgwyr o’r hen system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) i’r system ADY newydd, wrth i’r gwaith o gyflwyno’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol barhau.

Bydd y system ADY newydd, a gaiff ei chyflwyno dros dair blynedd, yn sicrhau bod plant a phobl ifanc ag ADY yn cael eu nodi’n gyflym a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu. Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynlluniau datblygu unigol newydd, sydd wedi’u dylunio i sicrhau bod safbwyntiau’r dysgwyr wrth galon prosesau gwneud penderfyniadau, ynghyd â safbwyntiau eu rhieni a’u gofalwyr. 

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

“Rydym yn benderfynol o ddarparu system addysg gwbl gynhwysol yng Nghymru – system lle mae anghenion ychwanegol yn cael eu nodi’n gynnar a’u diwallu’n gyflym, a lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn cael cymorth i ffynnu yn eu haddysg.

“Mae ysgolion a meithrinfeydd eisoes yn gwneud gwaith gwych o gefnogi eu dysgwyr, ond rydym yn gwybod bod angen rhagor o adnoddau arnynt i wneud hyn. Dyna pam rwy’n cyhoeddi’r buddsoddiad ychwanegol hwn er mwyn helpu dysgwyr i oresgyn effeithiau’r pandemig ac i sicrhau cydraddoldeb iddynt o ran eu haddysg, eu cyfleoedd gwaith, a’u hiechyd a’u llesiant.”