English icon English
pharmacy2-2

Darparu ystod ehangach o wasanaethau mewn fferyllfeydd yng Nghymru

Wider range of services to be provided by pharmacies across Wales

O fis Ebrill 2022, bydd holl fferyllfeydd cymunedol Cymru yn gallu cynnig ystod ehangach o wasanaethau o ganlyniad i ddiwygiadau sylweddol sydd wedi eu cytuno gan y Gweinidog Iechyd.

Mae’r newidiadau yn golygu y bydd modd i gleifion gael gwasanaethau’r GIG yn gyfleus ac yn hygyrch, yn agosach at y cartref. Bydd hyn yn ei dro yn rhyddhau amser meddygon teulu a gwasanaethau eraill y GIG er mwyn iddynt gefnogi cleifion sydd ag anghenion sy’n fwy cymhleth.

Mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd wedi cymeradwyo’r newidiadau hyn yn dilyn ail-drafod y Fframwaith Cytundebol Fferylliaeth Gymunedol gyda Fferylliaeth Gymunedol Cymru, y corff cynrychioladol ar gyfer fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru.

Bydd y cytundeb yn cyflwyno’r gwasanaeth fferylliaeth gymunedol clinigol cenedlaethol a fydd yn galluogi pob fferyllfa i roi triniaethau ar gyfer mân anhwylderau, sicrhau bod meddyginiaethau ar bresgripsiwn rheolaidd ar gael mewn argyfwng, rhoi’r brechiadau ffliw blynyddol, a rhoi rhai dulliau atal cenhedlu brys a rheolaidd. Yn ogystal, mae’r cytundeb yn cynnwys cynlluniau i sefydlu gwasanaeth fferylliaeth sy’n rhoi presgripsiynau ledled Cymru. Bydd hyn yn galluogi fferyllwyr sydd wedi’u hyfforddi’n briodol i drin ystod ehangach o gyflyrau y mae’n rhaid i bobl fynd at eu meddyg teulu i’w trin ar hyn o bryd.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd;

“Mae’r newidiadau i’r fframwaith cytundebol fferylliaeth gymunedol yn cynrychioli’r newid sylfaenol mwyaf i’r modd y mae fferyllfeydd yn gweithredu ers sefydlu’r GIG fwy na 70 mlynedd yn ôl.

“Mae ein ‘presgripsiwn newydd’ ar gyfer fferylliaeth gymunedol yn amlinellu dull cydweithredol, arloesol a blaengar o ddarparu gofal fferyllol. Mae fferyllwyr yn arbenigwyr mewn meddyginiaethau, ac maent yn ymgymryd â hyfforddiant cynhwysfawr er mwyn cynorthwyo pobl i drin ystod o fân anhwylderau. Bydd defnyddio’r sgiliau sydd gan dimau fferylliaeth gymunedol yn sicrhau ein bod yn gallu cwrdd ag anghenion y GIG a phobl Cymru nawr, ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Rydym bob amser yn chwilio am ddulliau arloesol er mwyn sicrhau bod ein gwasanaeth iechyd yn gwella gwasanaethau i gleifion. Bydd y diwygiadau sylweddol hyn o gymorth i fferyllfeydd gwrdd â disgwyliadau newidiol dinasyddion Cymru a’r GIG.”

Dywedodd Russell Goodway, Prif Weithredwr Fferylliaeth Gymunedol Cymru:

“Mae fferyllwyr cymunedol wedi dadlau ers blynyddoedd y buasent yn gallu gwneud mwy o gyfraniad tuag at anghenion GIG Cymru a’i gleifion drwy ddarparu ystod ehangach o wasanaethau clinigol.

“Mae’r pandemig COVID-19 wedi cadarnhau hyn, ac mae Fferylliaeth Gymunedol Cymru yn falch o fod wedi gallu cydweithio â Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnod heriol i ddatblygu fframwaith cytundebol fferylliaeth gymunedol newydd yng Nghymru. Bydd hyn yn sicrhau mai’r fferyllfa leol fydd y man galw cyntaf ar gyfer ystod o wasanaethau clinigol gan ymdrin â nifer o gyflyrau y mae’n rhaid cael apwyntiad gyda meddyg teulu i’w trin ar hyn o bryd.

“Mae’r cytundeb hwn yn argoeli’n dda ar gyfer y rhwydwaith fferylliaeth gymunedol yng Nghymru, gan osgoi’r trafferthion sy’n wynebu cydweithwyr yn Lloegr o ganlyniad i doriadau i gyllid fferylliaeth gymunedol.”

I ddechrau, bydd fferyllwyr sy’n bresgripsiynwyr yn gallu rhoi presgripsiynau am feddyginiaethau ar gyfer anhwylderau acíwt megis heintiau'r llwybr wrinol a’r system anadlu uchaf, yn ogystal â rhoi presgripsiynau ar gyfer dulliau atal cenhedlu cyffredin.

Erbyn mis Ebrill 2024, bydd cyllid ar gyfer gwasanaethau presgripsiynu annibynnol yn cynyddu o £1.2m i £20.2m bob blwyddyn. Bydd cyllid ar gyfer gwasanaethau fferylliaeth gymunedol clinigol yn cynyddu o £11.4m i £20.0m bob blwyddyn.

Mae cyllid yn parhau i fod ar gael i gynorthwyo fferyllwyr sy’n cwblhau hyfforddiant presgripsiynu annibynnol a hyfforddiant technegydd fferyllol cyn cofrestru.

Yn ychwanegol i’r diwygiadau, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cyllid i alluogi fferyllfeydd i weithredu systemau awtomataidd arloesol. Bydd robotiaid fferyllol a systemau sy’n debyg i beiriannau ATM yn sicrhau bod modd casglu presgripsiynau 24 awr y dydd. Bydd hyn yn galluogi pobl i gasglu presgripsiynau yn fwy hwylus, yn sicrhau bod fferyllfeydd yn fwy effeithlon, ac yn sicrhau gwell mynediad at y gwasanaethau clinigol sydd ar gael.

Ers mis Ebrill 2019, mae 24 fferyllfa yng Nghymru wedi elwa o fuddsoddiad o bron i £500,000 er mwyn eu cefnogi i fabwysiadu’r technolegau newydd ac arloesol.