English icon English

Hwb gwerth £900k ar gyfer prosiectau band eang ym Mhowys

£900k boost for broadband projects in Powys

Bydd prosiect band eang lleol ym Mhowys yn derbyn cyllid gwerth dros £900k, i’w helpu i ddarparu band eang cyflym a dibynadwy ar gyfer y cymunedau y mae ei angen arnynt, diolch i Gronfa Band Eang Lleol Llywodraeth Cymru.

 

Bydd y gronfa £10 miliwn, a gafodd ei sefydlu i helpu awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i fynd i’r afael â phroblemau cysylltedd yn eu cymunedau, eisoes wedi helpu nifer o brosiectau yn y cam cyntaf, a bydd nawr yn helpu nifer o brosiectau eraill yn ystod cam dau.

Bydd y prosiect yn cysylltu 13 adeilad ‘anodd eu cyrraedd’ ym Mhowys, gan roi manteision i 139 adeilad arall ar draws y Sir ar yr un pryd’.

Bydd yr adeiladau’n derbyn cysylltiadau ffeibr, gyda’r ceblau ffeibr yn mynd yn uniongyrchol o’r gyfnewidfa i’r adeiladau anodd eu cyrraedd. Bydd y cebl ffeibr yn cael ei hollti ar hyd y llwybr, lle mae nod ffeibr er enghraifft, ac yn cael ei ailgyfeirio i adeiladau ar y ffordd.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Rosemarie Harris

"Mae'r newyddion ein bod wedi bod yn llwyddiannus yn y cais hwn am gyllid yn newyddion gwych a bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i drigolion mewn chwe chymuned wahanol ar draws ein sir wledig enfawr. Gallwn yn awr brofi, er bod yr eiddo hyn yn 'anodd eu cyrraedd', nad ydynt yn 'amhosibl eu cyrraedd' os yw’r cymorth cywir ar gael. "Ynghyd â'n swyddog band eang gwych, edrychaf ymlaen at ymgysylltu ymhellach â chymunedau gwledig ym Mhowys wrth i ni anelu at sicrhau cysylltedd gwell ar y rhyngrwyd i gynifer o drigolion a busnesau â phosibl."

Ychwanegodd y Cynghorydd Beverley Bayham, sy’n gyfrifol am Bortffolio Cyngor Sir Powys ac am ei raglen Ddigidol ym Mhowys:

"Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn cyllid hefyd tuag at ein Tîm Band Eang Cymunedol, ymgyrch farchnata sy'n ymwneud â chysylltedd digidol ac ymgynghoriaeth dechnegol a fydd yn helpu gyda mathau arloesol o gysylltiad."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters:

“Mae band eang cyflym a dibynadwy yn bwysicach nag erioed. Er nad yw’r maes hwn wedi cael ei ddatganoli i Gymru, rydyn ni’n gweithredu drwy ein Cronfa Band Eang Lleol, ac amryw gynlluniau eraill, i sicrhau cysylltiadau gwell mewn rhai o’r ardaloedd mwyaf anodd eu cyrraedd yng Nghymru. Mae cysylltiadau digidol o ansawdd da yn sail i bopeth rydyn ni’n ei wneud yn ddigidol, ac mae cyflawni ein Strategaeth Ddigidol uchelgeisiol ar gyfer Cymru yn dibynnu ar gysylltiadau o’r fath.

“Mae’r gronfa eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cymunedau ledled Cymru, ac mae’n bleser mawr gen i gyhoeddi bydd rhagor o gynlluniau’n elwa ar y cyllid hwn.

“Mae band eang yn gyfleustod allweddol a byddwn ni’n parhau i gefnogi pob ymdrech i atgyfnerthu cysylltiadau hyd a lled Cymru.”