Dwr Cymru Welsh Water News

16 Dec 2021

Grwpiau cymunedol yn derbyn cyllid gan Ddŵr Cymru

Community groups secure funding from Welsh Water

Grwpiau cymunedol yn derbyn cyllid gan Ddŵr Cymru: Thank-You-Rhondda-Fach-Graphic-WEL-3
  • Dŵr Cymru'n diolch i gymuned Cwm Rhondda Fach trwy gynnig £250 i bedwar grŵp cymunedol. 
  • Mae hyn yn rhan o fuddsoddiad £23 miliwn y cwmni mewn gwaith i uwchraddio'r rhwydwaith dŵr glân yn yr ardal. 
  • Mae'r cwmni wedi cyfrannu dros £20,000 at grwpiau cymunedol yng Nghwm Rhondda Fach dros y tair blynedd diwethaf. 

ros y tair blynedd diwethaf, mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi buddsoddi £23 miliwn mewn gwaith i uwchraddio'r pibellau dŵr glân yng Nghwm Rhondda Fach.  

 

I ddiolch i'r gymuned leol am eu hamynedd yn ystod y gwaith, mae'r cwmni nid-er-elw wedi cynnig cyfle i grwpiau cymunedol lleol dderbyn cyfraniad o £250 i'w cynorthwyo i gynnal gweithgareddau er budd y gymuned gyfan.   

 

Cafodd pedwar grŵp eu dewis ar hap i gael £250 yr un ar gyfer eu prosiectau. Un o'r grwpiau llwyddiannus oedd clwb rygbi plant a phobl ifanc Tylorstown, a sefydlwyd i helpu pobl ifanc Cwm Rhondda Fach i  roi ffocws ar chwaraeon a dod yn aelod o dîm lleol.  

rhondda-6

Dywedodd Jason Cook, aelod o glwb rygbi plant a phobl ifanc Tylorstown: "Trwy weithio ochr yn ochr â rhwydweithiau o gymdogion, ysgolion a grwpiau cymunedol, rydyn ni'n gallu hybu manteision chwaraeon o ran iechyd a lles pobl ifanc. Bydd yr arian yma'n ein helpu ni i ehangu'r clwb fel y gallwn gefnogi mwy fyth o bobl ifanc a'u cynorthwyo i lewyrchu yn y gymuned leol.” 

 

Dros y tair blynedd diwethaf, mae'r cwmni nid-er-elw wedi cyfrannu dros £20,000 at dros 60 o grwpiau cymunedol ar draws Cwm Rhondda Fach. Mae'r arian yma wedi helpu i gynnal amrywiaeth o weithgareddau fel chwaraeon, cerddoriaeth ac offer celfyddydol, offer swyddfa, llogi ystafelloedd, a darparu adnoddau iechyd meddwl a lles.  Mae rhywfaint o'r cyllid wedi mynd i feithrinfeydd, dosbarthiadau addysg i oedolion ac i grwpiau sy'n hyrwyddo cysylltiadau cymunedol hefyd. 

 

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Cysylltiadau Cymunedol Dŵr Cymru: “Rydyn ni'n gwybod bod ein gwaith i uwchraddio'r pibellau dŵr wedi effeithio ar lawer o'n cwsmeriaid sy'n byw yng Nghwm Rhondda Fach dros y tair blynedd diwethaf ac rydyn ni am ddiolch iddynt am eu hamynedd yn ystod y gwaith. Cwmni cymdeithasol-gyfrifol ydyn ni, ac rydyn ni bob amser yn awyddus i gynorthwyo cymunedau lleol, felly darparu cyllid i gynorthwyo'r gwaith rhagorol y mae'r sefydliadau hyn yn ei wneud yw'n ffordd ni o roi rhywbeth nôl er budd y gymuned leol yng Nghwm Rhondda Fach". 

Gwybodaeth Cyswllt

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau i olygyddion    

  • Mae Dŵr Cymru'n unigryw yn y diwydiant dŵr am ei fod mewn perchnogaeth ar ran ei gwsmeriaid.  
  • Mae'r cwmni wedi bod yn eiddo i Glas Cymru ers 2001. Cwmni a sefydlwyd yn Ebrill 2001 yn unswydd at ddibenion caffael a pherchen ar Ddŵr Cymru yw Glas Cymru.    
  • Nid oes unrhyw gyfranddeiliaid gan y cwmni, ac mae'r holl elw ariannol yn cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes er budd ei gwsmeriaid.  
  • Mae Dŵr Cymru'n buddsoddi'n drwm ac yn gweithio'n galed er mwyn sicrhau bod y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu'n cael gwasanaethau o'r safon uchaf.  
  • Mae’r cwmni'n bwriadu buddsoddi £1.8 biliwn yn ei rhwydweithiau dŵr a charthffosiaeth rhwng 2020 a 2025.   
  • Mae'r cwmni'n gwasanaethu'r rhan fwyaf o Gymru, Glannau Dyfrdwy a Sir Henffordd. Y cwmni yw’r mwyaf ond pump o 10 cwmni dŵr a charthffosiaeth mawr Cymru a Lloegr.   
  • Gwybodaeth bellach: Cysylltwch â Swyddfa'r Wasg yn Dŵr Cymru: 01443 452 452 neu press@dwrcymru.com