English icon English

£1 filiwn ar gael i gynorthwyo diwydiant pysgota Cymru

£1 million made available to support Wales’ fishing industry

Mae cymuned bysgota Cymru yn cael ei gwahodd i gyflwyno ceisiadau i gronfa gwerth £1 filiwn a fwriedir yn bennaf i helpu i liniaru'r effaith y mae Covid yn parhau i’w chael ar y diwydiant, a’i helpu i addasu yn wyneb y newidiadau i amodau'r farchnad ar gyfer cynhyrchion bwyd môr

Mae Cronfa Pysgodfeydd Morol Ewrop (EMFF) yn cael ei hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r Comisiwn Ewropeaidd ac mae wedi cefnogi llawer o brosiectau yng Nghymru ers iddi gael ei chyflwyno yn 2014.

Bydd y cyllid yn helpu pobl i fuddsoddi yn y fflyd arfordirol ar raddfa fach ac mewn dyframaethu, ynghyd â gwelliannau i’r ffordd y mae cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu yn cael eu marchnata a’u prosesu. Fodd bynnag, bydd yn rhaid cwblhau unrhyw brosiect a ddewisir ac a gefnogir o dan y rhaglen o fewn cyfnod o 12 mis a fydd yn dechrau o fis Gorffennaf eleni.

Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer yr EMFF yn agor heddiw. Mae canllawiau ar gael i'r rheini sydd â diddordeb mewn gwneud cais. a dylid anfon Ffurflen Amlinellu Prosiect at Daliadau Gwledig Cymru cyn gynted â phosibl. Yna bydd ffurflen gais lawn yn cael ei hanfon atoch a bydd angen ichi ei llenwi a'i hanfon yn ôl erbyn y dyddiad cau ar 25 Mawrth.

Bydd yr holl gynigion am brosiectau a ddaw i law yn cael eu hasesu ar sail yr wybodaeth a ddarperir yn y cais, a dim ond ar ôl i'r cyfnod ymgeisio gau y bydd y cais cael ei ystyried.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Dwi'n falch o fedru sicrhau bod £1 filiwn ar gael i gefnogi'r diwydiant pysgota mewn cyfnod sy’n dal i fod yn un heriol dros ben.

“Mae dros £15 miliwn o ddyfarniadau grant wedi’u cymeradwyo eisoes ar gyfer prosiectau ledled Cymru drwy Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop, ac mae gwerth £1 filiwn arall o brosiectau wrthi'n cael eu hystyried.

“Gan mai dim ond tan 2023 y bydd cyllid y Comisiwn Ewropeaidd ar gael, bydd y £1 filiwn hon yn canolbwyntio'n bennaf ar ddarparu cymorth i helpu'r diwydiant i liniaru’r effaith mae Covid yn parhau i’w chael ac i addasu yn wyneb y newidiadau i’r farchnad ar gyfer cynhyrchion bwyd môr.

“Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i anfon Ffurflen Amlinellu Prosiect at Daliadau Gwledig Cymru cyn gynted â phosibl, cyn cwblhau cais llawn erbyn 25 Mawrth."

Mae manylion y rhaglen EMFF a chanllawiau'r cynllun i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru: Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop | Is-bwnc | LLYW.CYMRU  

Am unrhyw gymorth a chefnogaeth ychwanegol, dylai ymgeiswyr gysylltu â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW ar 0300 062 5004.

Mae'r cynllun newydd hirdymor yn lle’r EMFF wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a disgwylir iddo fod ar gael yn ddiweddarach eleni.