English icon English

Neges Blwyddyn Newydd gan Brif Weinidog Cymru

First Minister's New Year Message

Yn ei neges Blwyddyn Newydd mae Mark Drakeford yn dweud:

Blwyddyn Newydd dda i chi i gyd.

Gobeithio eich bod wedi cael Nadolig hapus a heddychlon.

Wrth i’r flwyddyn ddod i ben, dyma edrych nôl ar y deuddeg mis diwethaf.

Blwyddyn eithriadol, ac, weithiau, blwyddyn anodd.

Rwyf am gymryd munud i feddwl am yr holl bobl, ledled Cymru, sydd wedi helpu i’n cadw ni yn ddiogel.

Unwaith yn rhagor, mae ein gweithwyr rheng flaen, a staff y Gwasanaeth Iechyd, wedi gweithio’n fwy caled nac erioed.

Dydd a nos, maent wedi gofalu amdanom ac wedi ein amddiffyn ni.

Diolch o galon i chi gyd.

Nawr, mae’n bryd dechrau meddwl am y flwyddyn i ddod – blwyddyn newydd llawn posibiliadau.

Bydd llawer ohonom yn gwneud adduniadau blwyddyn newydd.

Os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod, rhowch y trydydd brechiad ar dop eich rhestr.

Rydym yn gwybod y bydd wythnosau cyntaf Dwy-Fil-dau-ddeg dau yn anodd.

Mae Omicron yma yng Nghymru ac yn symud yn gyflym drwy ein cymunedau.

Byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn i’ch diogelu chi ac diogelu Cymru.

Gyda’n gilydd, fe wnawn ni ddiogelu ein gilydd, a dod allan o’r pandemig yn gryfach.

Mae dyddiau gwell i ddod.

Amser eto i fod gyda ffrindiau a theulu. Amser i greu atgofion newydd.

Felly, os gwelwch yn dda, dewch i ni dynnu gyda’n gilydd eto ar drothwy blwyddyn arall.

Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.