English icon English

Neges Nadolig gan Brif Weinidog Cymru

First Minister of Wales’ 2021 Christmas message

Yn ei neges Nadolig mae Mark Drakeford yn dweud:

Nadolig Llawen i chi i gyd.

Gobeithio y cewch chi Nadolig diogel, heddychlon a hapus.

Wrth i ni ddod at ein gilydd gyda ffrindiau a theulu, mae cysgod y pandemig yno o hyd.

Ond, unwaith eto, byddwn yn tynnu gyda’n gilydd i ddod trwy’r cyfnod anodd hwn.

I roi help llaw i deulu, ffrindiau a chymdogion.

Ac i edrych ymlaen at y dyfodol gyda gobaith ac optimistiaeth.

Y Nadolig hwn, bydd llawer o bobl yn gweithio ddydd a nos i’n cadw ni yn ddiogel –

gwirfoddolwyr yn y gymuned, staff y Gwasanaeth Iechyd a’r gwasanaethau brys.

Ac wrth gwrs yr holl bobl sydd wedi aberthu eu Nadolig i weithio yn y canolfannau brechu ledled y wlad. I’n hamddiffyn ni rhag y feirws ofnadwy hwn.

Mae ymroddiad a gwasanaeth y “fyddin frechu” werth y byd i ni.

Diolch yn fawr iawn am eich holl waith caled.

Rwyf am i chi i gyd gael gorffwys, hedd a llawenydd dros yr Ŵyl.

Nadolig Llawen.